Ardal Adnoddau Dyframaethu
Mae'r Ardal Adnoddau Dyframaethu yn deillio'n bennaf o astudiaeth gan ABPmer (2015), 'A Spatial Assessment of the Potential for Aquaculture in Welsh Waters' a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Fel rhan o'r prosiect, roedd angen datblygu haenau data gofodol er mwyn amlygu ardaloedd dyframaeth posibl ar sail adnoddau naturiol addas, defnyddiau morol eraill, ac agosrwydd at seilwaith hanfodol. Yn ogystal â'r ardaloedd a nodwyd gan ABPmer, mae'r set ddata hon yn cynnwys ardaloedd a nodwyd gan Lywodraeth Cymru fel ardaloedd adnoddau posibl. Nodwyd yr ardaloedd ychwanegol hyn ar sail gwybodaeth leol ond mae'n bosibl nad ydynt yn gynhwysfawr.
*************************************************************
Tarddiad AA
Mae Ardaloedd Adnoddau (AA) yn ardaloedd eang sy'n disgrifio, ar gyfer rhai sectorau, ddosbarthiad adnodd penodol sydd â'r potensial i'w ddefnyddio neu sy'n cael ei ddefnyddio.
Nid yw tarddiad AA yn cynnwys ffactorau amgylcheddol, ac mae'n rhaid cynnal asesiad cyn rhoi trwydded; lle mae mwy o fanylion yn hysbys ar unrhyw gynnig.
Cyfeiriwch at y testun tarddiad AA llawn ar gyfer y sector hwn ac eraill.
Diweddariad diwethaf
Hawlfraint
© Hawlfraint y Goron
Disgrifiad | Math | Diweddbwynt |
---|---|---|
Web Map Service (WMS) | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms (appdata-wg-marine:aquaculture_ra) |
Web Feature Service (WFS) | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs (appdata-wg-marine:aquaculture_ra) |