Nodweddion Cynefinoedd Daearyddol Erthygl 17
Mae mapiau adrodd Erthygl 17 y Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn gipolwg o'r data gofodol ar gyfer nodweddion sydd wedi’u rhestru ar wahanol Atodiadau'r Gyfarwyddeb yn ystod y cyfnod adrodd. Maent yn cynrychioli maint a lleoliad hysbys nodweddion yng Nghymru. Gellir cael y mapiau dosbarthu cynefinoedd 10km2 diweddaraf a gyflwynwyd fel rhan o'r adroddiadau Erthygl 17 swyddogol gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC): European reporting | JNCC - Adviser to Government on Nature Conservation. Caiff y mapiau eu hadolygu a'u diweddaru bob 6 blynedd fel rhan o broses adrodd y Gyfarwyddeb Cynefinoedd. (Ers ymadael â'r UE, disodlwyd gan Reoliad 9a o Reoliadau Cadwraeth a Rhywogaethau 2017).
Mae'r arolygon gwreiddiol a'r digwyddiadau monitro y mae'r cofnodion wedi'u tynnu ohonynt yn amrywio'n fawr o ran dyddiadau sy'n mynd yn ôl ddegawdau lawer mewn rhai achosion, gyda hyder yn amrywio'n sylweddol.
Cydnabyddiaeth: Mae’n cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans 100019741. Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata.
Diweddariad diwethaf
Hawlfraint
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans 100019741. Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata.
Fformat | Download Link |
---|---|
Shapefile | https://naturalresourceswales.sharefile.eu/d-s86e79a98a3c746a5beb2aa8bf984c366 |