Cronfa ddata adnabod lluniau morloi llwydion Cymru: EIRPHOT
Mae'r set ddata hon yn gatalog o ddelweddau morloi a gasglwyd fel rhan o waith monitro morloi a thystiolaeth Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Darparwyd delweddau hefyd gan wirfoddolwyr, partneriaid, sefydliadau ac aelodau'r cyhoedd trwy gydweithrediad â'r Cyngor Cefn Gwlad/CNC. Mae'r delweddau'n dangos pennau, gyddfau ac ystlysau morloi llwyd (benywod yn bennaf) y tynnwyd ffotograffau ohonynt mewn safleoedd glanio morloi o amgylch y Môr Celtaidd a Môr Iwerddon rhwng 1992 a 2016 ac maent yn dangos marciau croen morloi y gellir eu hadnabod yn unigol o gyfarfyddiadau ffotograffig dilynol - adnabod lluniau (Dal, Nodi, Ail-ddal). Mae'r gronfa ddata yn cynnwys dros 17,000 o ddelweddau ffotograffig o fwy na 9,000 o forloi llwyd. Mae Adnabod trwy luniau yn caniatáu dal morloi unigol drwy amser a gofod ac mae dadansoddiadau o'r data'n rhoi mewnwelediadau i ffyddlondeb a chysylltiadau safle, symudiadau a chysylltedd, a hirhoedledd/goroesiad.
Adroddiad Tystiolaeth CNC 280 mewn cyfeiriadau: Langley I, Rosas da Costa Oliver T, Hiby L, Morris CW, Stringell TB, Pomeroy P 2018. EIRPHOT: A critical assessment of Wales’ grey seal (Halichoerus grypus) photo-identification database. Adroddiad Cyfres Adroddiadau Tystiolaeth CNC Rhif: 280, 94tud, Cyfoeth Naturiol Cymru, Bangor
Cydnabyddiaeth
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © a Hawl Cronfa Ddata Cyfoeth Naturiol Cymru. Cedwir pob hawl
Diweddariad diwethaf
Hawlfraint
Cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a hawliau cronfa ddata
Fformat | Download Link |
---|---|
Amrywiol / arall | https://naturalresourceswales.sharefile.eu/d-sd667472f99a423ca |