Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) Cynefinoedd daearol pwysig iawn
O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) (2016), mae Adran 7 yn ei gwneud hi'n ofynnol i lunio rhestrau bioamrywiaeth. Mae'r rhestrau hyn yn cynnwys mathau o gynefinoedd sy’n "bwysig iawn" at ddibenion cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru. Mae'r rhestr hon yn disodli'r ddyletswydd yn Adran 42 Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006. Mae'r set ddata hon yn nodi maint a lleoliad y cynefinoedd daearol hynny a nodir fel rhai "pwysig iawn" yng Nghymru.
Crëwyd y set ddata hon gan ddefnyddio Cynllun Gweithredu Lleol ar Fioamrywiaeth Cynefinoedd â Blaenoriaeth yng Nghymru a Chynefinoedd Eang, sy'n deillio o arolygon cynefinoedd a rhywogaethau daearol Cam 1 a gynhaliwyd ledled Cymru. Yn 2019, roedd y rhestr dros dro o gynefinoedd pwysig iawn union yr un peth â'r rhestr flaenorol o dan Adran 42 Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig.
Cydnabyddiaeth
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans 100019741. Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata.
Diweddariad diwethaf
Hawlfraint
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans 100019741. Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata.
Fformat | Download Link |
---|---|
Shapefile | https://naturalresourceswales.sharefile.eu/d-s7135bc4bd9d94107a69b4041a4430d4f |