Map Llifogydd: Ardaloedd Storio Llifogydd
Mae'r Map Llifogydd yn set ddata gofodol sy'n dangos yr ardaloedd ar draws Cymru a allai gael eu heffeithio gan lifogydd o afonydd neu'r môr. Mae hefyd yn dangos amddiffynfeydd rhag llifogydd a'r ardaloedd sy'n elwa ohonynt. Mae’r Map Llifogydd wedi’i gynllunio i godi ymwybyddiaeth ymhlith yr awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill o’r tebygolrwydd o lifogydd ac i annog pobl sy'n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd sy'n dueddol o ddioddef llifogydd i gael rhagor o wybodaeth a chymryd camau priodol. Mae'r Map Llifogydd yn cynnwys sawl haen o wybodaeth, yr haen hon yw: Ardaloedd Storio Llifogydd, sy'n dangos yr ardaloedd hynny sy'n gweithredu fel cronfa cydbwyso, basn storio neu bwll cydbwyso. Eu pwrpas yw gwanhau uchafbwynt y llif dŵr sy'n dod i mewn, i lefel o lif dŵr y gall y sianel i lawr yr afon ei dderbyn. Gall hefyd oedi amseriad uchafbwynt y llif fel bod y dŵr yn cael ei ryddhau dros gyfnod hwy o amser.
Cydnabyddiaeth
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl.
Diweddariad diwethaf
Hawlfraint
Cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a hawliau cronfa ddata
Disgrifiad | Math | Diweddbwynt |
---|---|---|
Web Map Service (WMS) | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/nrw (inspire-nrw:NRW_FLOODMAP_FLOOD_STORAGE) |
Web Feature Service (WFS) | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs (inspire-nrw:NRW_FLOODMAP_FLOOD_STORAGE) |