Creu Coetir Glastir - Haenau Sgorio - Cymunedau yn Gyntaf
Cymunedau yn Gyntaf yw rhaglen Llywodraeth Cymru sy’n canolbwyntio ar drechu tlodi yn y gymuned. Mae’r rhaglen yn rhoi arian i Gyrff Cyflawni Arweiniol o fewn ardaloedd yr awdurdod lleol a elwir yn Glystyrau Cymunedau yn Gyntaf, a hynny er mwyn culhau’r bwlch sydd rhwng economi, addysg/sgiliau ac iechyd yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig a’n cymunedau mwyaf cefnog. Mae gan y rhaglen dri amcan strategol sy’n helpu i gyflawni’r canlyniadau hyn:
• Cymunedau Ffyniannus
• Cymunedau Dysgu
• Cymunedau Iachach
Mae clystyrau Cymunedau yn Gyntaf yn ategu data MALIC ac yn pwysleisio’n union lle mae ein cymunedau mwyaf difreintiedig - gan fod gwella cyfleoedd ac ansawdd bywyd yn yr ardaloedd hyn yn brif flaenoriaeth strategol i Lywodraeth Cymru.
http://gov.wales/topics/people-and-communities/communities/communitiesfirst/clusters/?skip=1&lang=cy
Diweddariad diwethaf
Hawlfraint
© Hawlfraint y Goron
Disgrifiad | Math | Diweddbwynt |
---|---|---|
Web Map Service (WMS) | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:GWC_CommunitiesFirst) |
Web Feature Service (WFS) | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs (inspire-wg:GWC_CommunitiesFirst) |