Archif LiDAR Hanesyddol
Catalog o Fodelau Tir Digidol (DTM) a Modelau Arwyneb Digidol (DSM) LiDAR Hanesyddol yng Nghymru a ddarperir gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyda hyperddolenni lawrlwytho.
Dyma ased dros dro a ddarperir hyd nes y caiff ateb mwy parhaol ei ddatblygu trwy borth ‘Lle’ Llywodraeth Cymru. O’r herwydd, gall newid.
Mae’r data ar gael, yn dibynnu ar amser a lleoliad, mewn cydraniadau rhwng 0.25 a 2m. Mewn ambell leoliad fe fydd yna fwy nag un deilsen, yn cyfateb i amryw o ddyddiadau cipio hanesyddol.
Mae’r meysydd DSM_URL a DTM_URL yn cynnwys dolenni sy’n arwain at y Model Arwyneb Digidol a Modelau Tir Digidol. Gallwch naill ai gopïo a gludo’r rhain yn y porwr, neu greu hyperddolenni y gellir clicio arnynt mewn meddalwedd SGDd.
Ar gyfer data LiDAR a gipiwyd yn gynharach, rhwng 1998 a 2002, weithiau dim ond y DSM sydd ar gael.
Cydnabyddiaeth
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl.
Diweddariad diwethaf
Hawlfraint
Cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a hawliau cronfa ddata
Disgrifiad | Math | Diweddbwynt |
---|---|---|
Web Map Service (WMS) | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/nrw (inspire-nrw:NRW_LIDAR_ARCHIVE_TILE_CATALOGUE) |
Web Feature Service (WFS) | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs (inspire-nrw:NRW_LIDAR_ARCHIVE_TILE_CATALOGUE) |