Rheoli Risg Erydiad Arfordirol Cenedlaethol (NCERM)
Mae'r set ddata hon yn fersiwn fanylach o'r data Erydiad Arfordirol sydd ar gael hefyd ar Lle (Dolen Gyswllt). Mae'r map Rheoli Risg Erydiad Arfordirol Cenedlaethol (NCERM) yn dangos gwaelodlin arfordirol ofodol NCERM. Mae'r waelodlin hon wedi'i rhannu i 'ffryntiadau'. Diffinnir y rhain fel darnau o arfordir ac iddynt nodweddion cyson yn seiliedig ar nodweddion ymddygiad clogwyni a'r nodweddion amddiffyn. Fe'i bwriedir fel set ddata meincnod cyfoes a dibynadwy sy'n dangos maint a chyfraddau erydiad am dri chyfnod, a hynny o ddyddiad sylfaen, sef 2005:
- Tymor Byr (0 – 20ml h.y. 2005 hyd 2025);
- Tymor Canolig (20 – 50ml h.y. 2025 hyd 2055); a
- Tymor Hir (50 – 100ml h.y. 2055 hyd 2105).
Mewn perthynas â’r lefelau hyder 5, 50 a 95% canraddol ar gyfer y ddwy senario ganlynol (DS Mae'r holl bellterau yn gronnol dros amser ac fe’u rhoddir mewn metrau):
• Dim Senario Polisi Ymyrraeth Weithredol; a
• Gyda gweithredu Polisïau Cynllun Rheoli Traethlin 2.
Mae polisïau math Amddiffyn a CRhT ar gyfer pob un o'r tri chyfnod a ddisgrifir uchod wedi'u cynnwys.
Mae'r data a'r wybodaeth gysylltiedig wedi'u bwriadu at ddibenion cyfarwyddyd - ni all y rhain ddarparu manylion ar gyfer eiddo unigol. Mae gwybodaethNCERM yn ystyried y prif risg yn yr arfordir, er bod prosesau llifogydd ac erydiad yn aml yn gysylltiedig, ac nid yw data ar erydu nodweddion y blaendraeth yn cael eu cynnwys yn gyffredinol.
Mae'r data yn disgrifio'r amcangyfrifon uchaf ac isaf o risg erydu mewn lleoliad penodol y disgwylir i leoliad gwirioneddol yr arfordir orwedd ynddo. Nid yw'r data yn amcangyfrif lleoliad absoliwt arfordir y dyfodol. Yn gyffredinol, nid yw manylion ardaloedd daearegol cymhleth, a elwir yn "glogwyni cymhleth", wedi'u cynnwys yn gyffredinol yn y set ddata oherwydd yr ansicrwydd cynhenid sy'n gysylltiedig â rhagfynegi amseriad a maint yr erydiad yn y lleoliadau hyn.
Diweddariad diwethaf
Hawlfraint
Cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a hawliau cronfa ddata
Disgrifiad | Math | Diweddbwynt |
---|---|---|
Great Orme to English Border | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/nrw (inspire-nrw:NRW_NCERM_GRT_ORME_ENG) |
Great Orme to English Border | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs/nrw (inspire-nrw:NRW_NCERM_GRT_ORME_ENG) |
Severn | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/nrw (inspire-nrw:NRW_NCERM_SEVERN) |
Severn | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs/nrw (inspire-nrw:NRW_NCERM_SEVERN) |
Swansea to Camarthen Bay | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/nrw (inspire-nrw:NRW_NCERM_SWAN_CAMA_BAY) |
Swansea to Camarthen Bay | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs/nrw (inspire-nrw:NRW_NCERM_SWAN_CAMA_BAY) |
West of Wales | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/nrw (inspire-nrw:NRW_NCERM_WEST_WALES) |
West of Wales | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs/nrw (inspire-nrw:NRW_NCERM_WEST_WALES) |