Rhaglen Monitro Afonydd OSPAR
Cytundeb a arwyddwyd gan nifer o wledydd Ewropeaidd (gan gynnwys y Deyrnas Unedig) yw Cynhadledd Gwarchod Amgylchedd Forwrol Gogledd-Ddwyrain yr Iwerydd a elwir yn Gynhadledd OSPAR 1998 ("Oslo Convention 1972 & Paris Convention 1974") er mwyn gwarchod ansawdd Gogledd-Ddwyrain yr Iwerydd. Amcan y Gynhadledd OSPAR yw cymryd pob cam posib i atal a dileu llygredd rhag mynd i mewn i'r môr. Mae'r Gynhadledd OSPAR yn darparu dulliau safonol o amcangyfrif mewnbwn llygryddion penodol i'r môr gan ddefnyddio amserlen samplu benodol a chyfrifiad mewnbwn safonol. Mae'r prif afonydd i gyd yn cael eu samplu'n fisol (12 gwaith y flwyddyn) i fyny'r afon o'u cyfyngiadau llanw. Ar gyfer yr afonydd hynny sy'n cario'r llwythau difwyno trymaf gall y samplu gynyddu o'r isafswm o 12. Mae'r prif elifiannau masnach a'r elifiannau carthffosiaeth i aberoedd neu ddyfroedd arfordirol hefyd yn cael eu samplu yn fisol i asesu dadlwythiadau uniongyrchol i ddyfroedd morwrol. Pwrpas y rhaglenni hyn yw asesu lefel y difwyno sy'n y môr (y 'llwyth') ac i ddilyn gwelliant yn lleihad y llwyth hwn.
Cydnabyddiaeth
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl.
Diweddariad diwethaf
Hawlfraint
Cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a hawliau cronfa ddata
Fformat | Download Link |
---|---|
Amrywiol / arall | https://naturalresourceswales.sharefile.eu/d-s90c30d70b014d5da |