Henebion Cofrestrig

Cadw

Mae safleoedd archaeolegol o bwysigrwydd cenedlaethol yn cael diogelwch cyfreithiol drwy gael eu rhoi ar ‘Gofrestr’ o henebion. O dan Ddeddf Henebion a Mannau Archaeolegol 1979, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru gasglu a chynnal y gofrestr hon.

Mae mwy na 4000 o enghreifftiau o Henebion Cofrestredig yng Nghymru, sy'n cynnwys olion Rhufeinig, carneddi, cestyll, pontydd, cloddwaith, olion pentrefi diffaith, safleoedd diwydiannol, cyfadeiladau milwrol o'r ugeinfed ganrif ac ati.

Ni all Henebion Cofrestredig gynnwys adeiladau eglwysig sy'n cael eu defnyddio na henebion sy'n cael eu defnyddio fel annedd (ac eithrio gan Ofalwr) ac, yn wahanol i Adeiladau Rhestredig, ni roddir gradd iddynt.

Yng Nghymru, mae henebion wedi cael eu cofrestru ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae'r broses hon yn dal i fynd rhagddi. Gall Henebion Cofrestredig fod yn destun ‘Adolygiad’, os bydd tystiolaeth archaeolegol/hanesyddol newydd mewn perthynas â'r heneb yn golygu bod angen newid y darlun map. Gellir hefyd dynnu henebion o'r Gofrestr mewn proses o'r enw ‘Dadgofrestru’. Er mwyn osgoi ailddefnyddio hen ddata, dylai defnyddwyr gael y fersiwn ddiweddaraf o Lle yn rheolaidd.

Bydd rhai darluniau o Henebion Cofrestredig, megis bryngaer o'r Oes Haearn, yn cwmpasu'r man Cofrestredig mewn un darlun, ond mae'n bosibl y bydd rhai eraill, fel carneddi o'r Oes Efydd, yn edrych fel eu bod wedi'u lleoli ar wahân yn y darluniau, er eu bod yn rhan o'r un Heneb Gofrestredig mewn gwirionedd.



Disgrifiad Math Diweddbwynt
Web Map Service (WMS) WMS http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:Cadw_SAM)
Web Feature Service (WFS) WFS http://lle.gov.wales/services/wfs (inspire-wg:Cadw_SAM)