Nodyn Cyngor Technegol 8: Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy – Meysydd Chwilio Strategol
Dyma set ddata o’r Ardaloedd Chwilio Strategol a bennir yn Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 8: Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy.
Mae’r Ardaloedd Chwilio Strategol yn ardaloedd yng Nghymru a bennir yn TAN 8 fel lleoliadau priodol ar gyfer datblygu ffermydd gwynt ar raddfa fawr. Caiff nodweddion manwl yr Ardaloedd Chwilio Strategol a’r fethodoleg a ddefnyddiwyd ar gyfer eu diffinio eu hamlinellu yn TAN 8 a’i Atodiadau. I gael rhagor o wybodaeth am bolisi cynllunio cenedlaethol ar gyfer ynni adnewyddadwy ac ynni carbon isel, gweler Polisi Cynllunio Cymru.
Noder mai mapiau yw’r rhain o’r Ardaloedd Chwilio Strategol gwreiddiol a gynhwyswyd yn TAN 8. Mae ganddynt ffiniau dangosol a allai gael eu haddasu gan Awdurdodau Cynllunio Lleol.
Diweddariad diwethaf
Hawlfraint
© Hawlfraint y Goron
Disgrifiad | Math | Diweddbwynt |
---|---|---|
Web Map Service (WMS) | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:tan8_indicative) |
Web Feature Service (WFS) | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs (inspire-wg:tan8_indicative) |