Cafodd y Lle Geo-portal ei ddatgomisiynu ar 28 Chwefror 2023. Mae'r holl ddata a mapiau wedi'u trosglwyddo i MapDataWales 

Nodyn ynghylch dolenni safle sydd wedi’u mewnblannu 

Os oes dolenni wedi’u mewnblannu ar unrhyw gymhwysiad GIS ar hyn o bryd ar safle Lle bydd angen i’r rhain gael eu diweddaru i greu dolenni ar gyfer MapDataCymru. I wneud hyn dylech wneud y canlynol: 

  1. O’r Hafan MapDataCymru, cliciwch ar Catalog data, neu os ydych yn gwybod enw’r adnodd sydd ei angen arnoch, gallwch ei deipio yn yr offeryn chwilio ar yr hafan.
  2. Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i’r adnodd sydd ei angen arnoch yn y catalog data, cliciwch ar y teitl.
  3. Ar y dudalen catalog adnoddau, dewch o hyd i’r adran Defnyddio’r data hyn mewn cymhwysiad arall, a chopïwch y ddolen WMS neu WFS drwy glicio ar y testun priodol.
  4. Yna gallwch bastio’r ddolen i gymhwysiad GIS o’ch dewis.