Catalog
27 Canlyniadau
-
Haenau SGDd (GIS) yn dangos helaethrwydd a dosbarthiad adar môr yn nyfroedd Cymru. Mae’r set ddata’n cynnwys data crai sy’n dangos arsylwadau’n ymwneud â’r holl adar môr a’r gridiau a grëwyd lle y dangosir dwysedd y rhywogaethau sy’n hedfan ac yn eistedd ar raddfa grid 3 cilometr a chwmpas yr arolwg. Pwrpas y gwaith cipio data hwn
...Mwy -
Rheoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007 yw'r unig reoliad sy'n rhoi rheolaeth dros golli cynefinoedd lled-naturiol heb eu dynodi yn sgil gwaith gwella amaethyddol yng Nghymru. Diben y Rheoliad yw caniatáu prosiectau amaethyddol nad ydynt yn cael effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd a sicrhau ar yr un pryd fod tir ac iddo bwysigrwydd amgylcheddol, hanesyddol
...Mwy -
Gwefan dan nawdd JNCC, yn rhoi gwybodaeth am Gynlluniau Gweithredu'r DU ar Fioamrywiaeth dros yr 20 mlynedd ddiwethaf (1992-2012).
-
Gwefan dan nawdd Defra, gellir ei defnyddio i weld pa gamau ymarferol sy'n cael eu cymryd er lles cynefinoedd a rhywogaethau pwysig, ac i gynhyrchu crynodebau o'r data. Mae hefyd yn ddull effeithlon o gyfrannu gwybodaeth am eich camau gweithredu chi ar fioamrywiaeth.
-
BIS oedd y Ganolfan Cofnodion Leol gyntaf yng Nghymru a chafodd ei sefydlu yn 2000 i gynnwys siroedd Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn. Roedd yn un o 3 canolfan gofnodion beilot yn y DU, (roedd y ddwy arall yn Sir Gaer a Gogledd-ddwyrain yr Alban) a chafodd ei ariannu gan bartneriaeth ag Ymddiriedolaeth Esmee Fairburn trwy Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt y Deyrnas Unedig. Sefydlwyd y
...Mwy -
Dyma set ddata wedi ei chasglu o ddata arolwg gyda chyfeiriadau gofodol a gafwyd gan wahanol gymunedau rhynglanw (biotopau) yng Nghymru. Mae mapiau'n cynnwys gwybodaeth ar leoliad biotop, lleoliad targed, mynediad a lluniau o leoliadau. Unwaith yn unig mae safleoedd yn cael eu mapio ac felly maent yn "giplun" mewn amser. Mae methodoleg yr arolwg yn seiliedig ar 'Handbook for Marine Intertidal
...Mwy -
Canolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De Ddwyrain Cymru (SEWBReC) yw'r ganolfan ar gyfer coladu, rheoli a lledaenu data bioamrywiaeth ar gyfer De Ddwyrain Cymru. Ein nod yw sicrhau bod gwybodaeth briodol am fioamrywiaeth leol ar gael i bawb sydd ei hangen, i helpu i sicrhau y gwneir penderfyniadau sy'n effeithio ar fioamrywiaeth leol gan ddefnyddio'r data gorau sydd ar gael.
-
Mae CGBGC yn gofalu am weithgarwch cofnodi biolegol mewn ardal sy’n rhyw 5650km2. Mae hyn yn cynnwys Is Siroedd Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin i gyd, ac eithrio’r sector Dwyreiniol bychan yn y sir sy’n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
-
Mae Cofnod yn un o bedair Canolfan Gofnodion Leol (CGL) yng Nghymru ac mae'n ffurfio rhan o'r rhwydwaith cenedlaethol cyntaf o CGLau yn y DG. Dewiswyd ein henw er mwyn adlewyrchu pwysigrwydd arsylwi a chofnodi bywyd gwyllt, a chreu 'cofnod' yw'r man cychwyn ar gyfer y holl ddata sydd gennym. Ein tasg yw dwyn at ei gilydd yr holl gofnodion unigol hyn mewn un bas data canolog fel bod gennym well ...Mwy
-
Defnyddiodd ecolegwyr coetir a glaswelltir Cyfoeth Naturiol Cymru y data digidol Cam 1 a etifeddwyd ganddynt o Arolwg Cynefinoedd Cymru Cyngor Cefn Gwlad Cymru; data digidol Cam 2 Arolwg Glaswelltir Tir Isel Cymru; data Nodweddion Cam 2 Arolwg Mawndir Tir Isel Cymru; map cynefinoedd Glaswelltir Calaminaraidd Atodiad 1; data Ffyngau Glaswelltir Glastir; a choetiroedd y frân goesgoch i
...Mwy -
Mae mapiau nodweddion ACA Rheoliad 35 yn cynnig llinell sylfaen ddangosol yn ymwneud â maint a statws (h.y. statws a/neu hyder “Pendant” neu “Botensial”) ar gyfer nodweddion ACA adeg dynodi’r safle. Dyma’r mapiau y dylid eu defnyddio i asesu effeithiau posibl cynlluniau a phrosiectau, ac ar gyfer cyngor yn ymwneud â gwaith achos. Maent hefyd yn
...Mwy -
Mae'r cofnodion data yn cynnwys data cynefin cynhwysfawr am Gymru gyfan sy'n deillio o raglen o gofnodion maes a ddechreuwyd gan Uned Faes Cymru, yn rhan o Gyngor Cadwraeth Natur yn 1979 ac a barhawyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru yn dilyn ail-strwythuro yn 1991. Pwrpas y data hwn yw darparu gwybodaeth ar benderfyniadau polisi, gwaith achos, dewis safleoedd. Gwnaed y gwaith maes mewn dau brif gam.
...Mwy -
Mae'r set ddata hon yn darparu hanes y gwaith ar gysylltedd a mapio blaenoriaethol yng Nghymru, ac mae'n darparu sylfaen ar gyfer mapio cysylltedd. Cyfres o haenau mapio yw'r allbwn, a elwir yn rhwydweithiau craidd, ffocal a lleol. Gyda'i gilydd mae'r rhain yn darparu canllaw i gysylltedd cynefin cyflawn ac mae'n gallu cael ei ddadansoddi mewn nifer o ffyrdd i gynorthwyo gwaith bioamrywiaeth a
...Mwy -
Data Rhywogaethau Cyfoeth Naturiol Cymru sydd ar Borth y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol (NBN Gateway). Mae hyn yn cynnwys cofnodion o rywogaethau morol, daearol a dŵr croyw ar gyfer amrywiaeth o grwpiau tacsonomig. Casglwyd y data i gefnogi swyddogaethau craidd y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol megis adrodd statudol ac anstatudol, monitro cyflwr a gwneud penderfyniadau.
Prif borth
...Mwy -
Fel rhan o ymrwymiad y DU i’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol yn 1992, y Confensiwn OSPAR a’r Ddeddf NERC, cafwyd nifer o fentrau er mwyn nodi’r rhywogaethau a’r cynefinoedd hynny y gallai eu poblogaethau yn y DU fod dan fygythiad, ac er mwyn creu cynlluniau i leihau’r bygythiadau hynny a chynnal bioamrywiaeth. Mae’r rhestr yn cynnwys holl flaenoriaethau
...Mwy -
Mae system wybodaeth ar natur Ewrop sef EUNIS, yn dod â data Ewropeaidd o sawl cronfa ddata a sefydliadau ynghyd â’i ffurfio yn dair modiwl cydgysylltiedig ynghylch mathau o safleoedd, rhywogaethau a chynefinoedd.
-
Mae’r set ddata ofodol hon yn gysylltiedig â Cham 4 (2018) Urban Tree Cover ac yn cynnwys 3 lefel unigol, sef Pwyntiau (coed unigol), polygonau (grwpiau o goed) a meintiau ardaloedd trefol (maint yr ardaloedd astudio). Yn wahanol i Gam 1 a Cham 2 ni chafodd dosbarthiadau defnydd tir eu creu ar gyfer cam 3 a 4. Mae’r adroddiad technegol yn dangos beth sy’n
...Mwy -
Hafan Canolfannau Cofnodion Lleol (LRC) Cymru
-
Mae’r Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol yn bartneriaeth gydweithredol sydd wedi’i chreu i gyfnewid gwybodaeth am fioamrywiaeth ac mae’n cynnwys llawer o sefydliadau gwarchod bywyd gwyllt, llywodraethau, asiantaethau cefn gwlad ac amgylcheddol, canolfannau cofnodion amgylcheddol lleol a llawer o grwpiau gwirfoddol eraill, oll o fewn y Deyrnas Unedig.
-
Mae Map Mawn Unedig Cymru yn seiliedig ar gyfuniad o'r haenau canlynol:
Mawn wyneb Arolwg Daearegol Prydain
Mawn arolwg y Comisiwn Coedwigaeth
Arolwg mawn yr iseldir (Cyfoeth Naturiol Cymru)
...Mwy -
Mae mapiau Erthygl 17 y Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn gipolwg o’r data gofodol mwyaf cyfamserol ar gyfer nodweddion a restrir yn amryw Atodiadau’r Gyfarwyddeb ar adeg y cofnodi. Maent yn cynrychioli maint/lleoliad a statws presennol y nodweddion oddi mewn ac oddi allan i Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Caiff mapiau Erthygl 17 eu hadolygu a’u diweddaru bob 6 blynedd fel rhan o broses
...Mwy -
"Ar y wefan hon cewch wybodaeth am waith Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru gan gynnwys: camau gweithredu ac amcanion cenedlaethol a lleol; newyddion a digwyddiadau yn ymwneud â bioamrywiaeth; a sut gallwch chi helpu bioamrywiaeth."
-
Mae Grŵp Cyflawni’r Flaenoriaeth i Atal yr Erlid ar Adar Ysglyfaethus yng Nghymru a Lloegr (Raptor PPDG) yn gwethio'n frwd i leihau'r erlid anghyfreithlon ar adar ysglyfaethus (gan gynnwys tylluanod) ac yn cytuno bod cynhyrchu mapiau sy'n dangos lleoliad achosion sydd wedi'u cadarnhau yn ffordd ddefnyddiol o gyflwyno gwybodaeth. Mae'r data am wenwyno anghyfreithlon â phlaladdwyr
...Mwy -
Cafodd y Porth Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS) ei lansio fel rhan o’r Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol (NBN) Atlas Cymru ym mis Tachwedd 2018.
Mae rhywogaeth oresgynnol estron yn cyfeirio at unrhyw anifail neu blanhigyn estron sydd â’r gallu i ledaenu, gan achosi difrod i’r amgylchedd, yr economi, ein hiechyd a’r ffordd yr ydym yn byw.. Mae’r
...Mwy -
Mae Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (RhaMaGG) wedi cael ei chomisiynu gan Lywodraeth Cymru i asesu perfformiad Glastir. Cafodd RhaMaGG ei lansio yr un pryd â chynllun Glastir. Mae hyn yn darparu adborth polisi cyflym fel ei bod yn bosibl addasu'r cynllun er mwyn gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.Cliciwch dolenni isod i gael gwybod mwy am gwaith mae RhaMaGG yn ei wneud o fewn y
...Mwy -
Mae'r data hyn yn nodi ardaloedd 10x10m, 100x100m a 1000x1000m lle cofnodwyd Cen dan Fygythiad ar Ynn. Dyluniwyd y set ddata i ganiatáu i reolwyr tir nodi'n gyflym a oes angen iddynt ystyried cen prin wrth weithio gyda choed Ynn, yn enwedig os ydynt yn ystyried cwympo coeden oherwydd lladdwr yr ynn (Hymenoscyphus pseudoalbidus).
Cydnabyddiaeth
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru
...Mwy -
Sefydlwyd ALERC yn 2009 ac mae’n bartneriaeth rhwng y Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol (LRCau) ym Mhrydain Fawr. Nod y Gymdeithas yw rhoi cyfle i gymuned y Ganolfan Gofnodion leisio eu barn a’u pryderon a chreu rhwydwaith o wybodaeth a chyngor i ddiwallu anghenion yr aelodau.