Catalog
36 Canlyniadau
-
Haenau SGDd (GIS) yn dangos helaethrwydd a dosbarthiad adar môr yn nyfroedd Cymru. Mae’r set ddata’n cynnwys data crai sy’n dangos arsylwadau’n ymwneud â’r holl adar môr a’r gridiau a grëwyd lle y dangosir dwysedd y rhywogaethau sy’n hedfan ac yn eistedd ar raddfa grid 3 cilometr a chwmpas yr arolwg. Pwrpas y gwaith cipio data hwn
...Mwy -
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n monitro safleoedd dŵr nofio yn Nghymru a ganfyddwyd o fewn Cyfarwyddeb Dyfroedd Nofio CE 2006/7. Cymerir samplau trwy gydol y tymor nofio o fis Mai hyd at ddiwedd Medi ac maen nhw'n cael eu dadansoddi am ddau baramedr: Escherichia coli ac enterococci coluddol. Cyflwynir dosbarthiad ansawdd dŵr nofio, fel arfer yn seiliedig ar bedair blynedd o ganlyniadau sampl, ar
...Mwy -
Mae’r cofnod yn cynnwys data sy’n gysylltiedig â cheisiadau hanesyddol am drwyddedau morol yng Nghymru, a rhai sydd wedi dod i ben. Mae’r data’n galluogi’r arfer o fapio lleoliad y ceisiadau fel y gellir asesu unrhyw effeithiau cyfunol gyda chynigion eraill.
Cydnabyddiaeth
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa
...Mwy -
The Crown Estate Key Resource Area (KRA) 2014 fel a ehangwyd gan Bide et al. 2013 – Gweler testun tarddiad Ardal Adnodd (dolen isod) am y fethodoleg lawn.
Ardaloedd sydd ag adnoddau tywod a graean pwysig. Wedi’u cyhoeddi fel rhan o brosiect ymchwil Mineral Resource Assessment of the UK Continental Shelf a gomisiynwyd gan Ystad y Goron fel a addaswyd ganddynt.
Mae’r set
...Mwy -
Mae'r Ardal Adnoddau Dyframaethu yn deillio'n bennaf o astudiaeth gan ABPmer (2015), 'A Spatial Assessment of the Potential for Aquaculture in Welsh Waters' a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Fel rhan o'r prosiect, roedd angen datblygu haenau data gofodol er mwyn amlygu ardaloedd dyframaeth posibl ar sail adnoddau naturiol addas, defnyddiau morol eraill, ac agosrwydd at seilwaith hanfodol. Yn
...Mwy -
Mae Ardaloedd Adnoddau yn ardaloedd eang sy'n disgrifio, ar gyfer rhai sectorau, dosbarthiad adnodd penodol sydd â'r potensial i gael ei ddefnyddio neu sy'n cael ei ddefnyddio. Mae Ardaloedd Adnoddau Ynni Ffrwd Lanw yn seiliedig ar Ardaloedd Adnoddau Allweddol Ystâd y Goron (Ystâd y Goron, 2013) ac ardaloedd sy'n cael eu diffinio yn y Fframwaith Strategol Ynni Adnewyddadwy Morol
...Mwy -
Mae Ardaloedd Adnoddau yn ardaloedd eang sy'n disgrifio, ar gyfer rhai sectorau, dosbarthiad adnodd penodol sydd â'r potensial i gael ei ddefnyddio neu sy'n cael ei ddefnyddio. Roedd Ardaloedd Adnoddau ynni'r tonnau yn seiliedig ar Atlas Adnoddau Ynni Adnewyddadwy Morol y DU (ABPmer, 2008) ac ardaloedd sy'n cael eu diffinio yn y Fframwaith Strategol Ynni Adnewyddadwy Morol (RPS, 2011).
...Mwy -
Mae Llywodraeth Cymru yn awdurdod cynllun morol ac mae'n gyfrifol am baratoi cynlluniau morol ar gyfer Cymru. Mae ardal y cynllun morol yng Nghymru yn cynnwys rhanbarthau cynllunio morol ar y glannau ac ar y môr. Mae rhanbarth y glannau yn ymestyn o benllanw cymedrig y gorllanw (MHWS) i derfyn 12 milltir fôr (12 nm) o fôr tiriogaethol y DU, a'r rhanbarth alltraeth o derfyn 12nm
...Mwy -
Fel tirweddau, mae morweddau’n adlewyrchu’r berthynas rhwng pobl a lleoedd a’r rhan sydd gan hyn wrth ffurfio cyd-destun ein bywydau bob dydd. Mae Ardaloedd Cymeriad Morol yn tynnu sylw at ddylanwadau naturiol, diwylliannol a chanfyddiadol hollbwysig sy’n gwneud cymeriad pob morwedd yn arbennig ac yn unigryw. Comisiynwyd CNC ar ran Llywodraeth Cymru i bennu cymeriad
...Mwy -
Rhennir cyfrifoldebau am drwyddedu ynni, cydsynio a chaniatáu ynni yn ardal y Cynllun rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Olew a Nwy.
Mae Deddf Cymru 2017 yn datganoli trwyddedu olew a nwy i Lywodraeth Cymru ar gyfer rhanbarthau ar y tir a dyfroedd mewnol (ardaloedd rhynglanwol, aberoedd neu ddyfroedd cilfach arfordirol sydd yn dod o fewn ardal drwydded ar y tir Cymru
...Mwy -
Cwblhawyd yr holl waith arolygu gan ABPmer ar ran Llywodraeth Cymru. Dewiswyd dwy ardal ar gyfer y gwaith arolygu a oedd yn cwmpasu dwy ardal ddaearyddol eang, Penmaen Dewi, Sir Benfro; ac ardal i’r gorllewin o Ynys Môn. Cynhaliwyd arolygon yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst 2019. Wrth gasglu data aml-belydr, cadwyd gorgyffyrddiad priodol er mwyn sicrhau cwmpas cyflawn heb unrhyw
...Mwy -
Dyma set ddata wedi ei chasglu o ddata arolwg gyda chyfeiriadau gofodol a gafwyd gan wahanol gymunedau rhynglanw (biotopau) yng Nghymru. Mae mapiau'n cynnwys gwybodaeth ar leoliad biotop, lleoliad targed, mynediad a lluniau o leoliadau. Unwaith yn unig mae safleoedd yn cael eu mapio ac felly maent yn "giplun" mewn amser. Mae methodoleg yr arolwg yn seiliedig ar 'Handbook for Marine Intertidal
...Mwy -
Mae Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) yn safleoedd dynodedig sydd wedi eu diogelu dan Gyfarwyddiaethau Cynefinoedd ac Adar y Gymuned Ewropeaidd. Mae’r Cyfarwyddiaethau yn rhestru mathau o gynefinoedd a rhywogaethau yr ystyrir eu bod angen eu gwarchod fwyaf ar lefel Ewropeaidd. Mewn achos o’r fath mae’n orfodol cael rhaglen sy’n
...Mwy -
Asiantaeth weithredol Defra yw Cefas. Mae Cefas - the Centre for Environment, Fisheries and Aquaculture Science - yn gwneud cyfraniad pwysig i sicrhau amgylchedd morol a dŵr ffres iach a chynaliadwy, er mwyn i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol ffynnu. Mae'r safle yn cynnwys gwybodaeth,data, cyhoeddiadau newyddion a manylion ynghylch gwasanaethau Cefas.
-
Mae'r set ddata hon yn gatalog o ddelweddau morloi a gasglwyd fel rhan o waith monitro morloi a thystiolaeth Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Darparwyd delweddau hefyd gan wirfoddolwyr, partneriaid, sefydliadau ac aelodau'r cyhoedd trwy gydweithrediad â'r Cyngor Cefn Gwlad/CNC. Mae'r delweddau'n dangos pennau, gyddfau ac ystlysau morloi llwyd (benywod yn
...Mwy -
Cymru (Marc penllanw). Mae'r data hwn wedi cael ei deillio o ddata Boundary-Line yr Arolwg Ordnans.
-
Mae mapiau nodweddion ACA Rheoliad 35 yn cynnig llinell sylfaen ddangosol yn ymwneud â maint a statws (h.y. statws a/neu hyder “Pendant” neu “Botensial”) ar gyfer nodweddion ACA adeg dynodi’r safle. Dyma’r mapiau y dylid eu defnyddio i asesu effeithiau posibl cynlluniau a phrosiectau, ac ar gyfer cyngor yn ymwneud â gwaith achos. Maent hefyd yn
...Mwy -
Mae'r setiau data'n dangos y sail arfordirol ofodol, sydd wedi'i rhannu'n 'diroedd blaen'. Diffinnir y rhain fel hydoedd o arfordir sydd â nodweddion cyson yn seiliedig ar nodweddion ymddygiad clogwyni a nodweddion amddiffynfeydd. Fe'i bwriedir fel set o ddata sylfaenol yn dangos meintiau erydu a chyfraddau ar gyfer tri chyfnod:
- Tymor Byr (0 – 20 mlynedd);
- Tymor Canolig (20 –
-
Mae hwn yn rhan o Lefelau Môr Dylunio / Eithafol Arfordirol (Coastal Design/Extreme Sea Levels), sef set ddata GIS a gwybodaeth ategol sy’n darparu gwybodaeth am lefelau môr dylunio / eithafol ac ymchwydd nodweddiadol o amgylch morlin y DU, gan gynnwys Cymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw a Jersey. Mae’r wybodaeth yn berthnasol o dan amodau presennol (y
...Mwy -
Fel rhan o ymrwymiad y DU i’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol yn 1992, y Confensiwn OSPAR a’r Ddeddf NERC, cafwyd nifer o fentrau er mwyn nodi’r rhywogaethau a’r cynefinoedd hynny y gallai eu poblogaethau yn y DU fod dan fygythiad, ac er mwyn creu cynlluniau i leihau’r bygythiadau hynny a chynnal bioamrywiaeth. Mae’r rhestr yn cynnwys holl flaenoriaethau
...Mwy -
Fel rhan o ymrwymiad y DU i’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol yn 1992, y Confensiwn OSPAR a’r Ddeddf NERC, cafwyd nifer o fentrau er mwyn nodi’r rhywogaethau a’r cynefinoedd hynny y gallai eu poblogaethau yn y DU fod dan fygythiad, ac er mwyn creu cynlluniau i leihau’r bygythiadau hynny a chynnal bioamrywiaeth. Mae’r rhestr yn cynnwys holl flaenoriaethau
...Mwy -
Deunaw mlynedd (1954-1972) o ddata dal-marcio-ail-ddal 245 o forloi llwyd ifainc wedi'u nodi â thagiau adnabod yng Nghymru.
Cafwyd y data o ffeiliau papur a gedwir gan CNC ac a gyflenwyd yn wreiddiol gan Gymdeithas Maes Gorllewin Cymru ac mae'n cynnwys gwybodaeth am leoliad a nifer yr anifeiliaid a farciwyd bob blwyddyn gan gynnwys amcangyfrifon rhyw ac oedran.
Cydnabyddiaeth
Yn cynnwys
...Mwy -
Comisiynodd Llywodraeth Cymru astudiaeth gan ABPmer, i asesu'r potensial ar gyfer dyframaethu o fewn Ardal Cynllun Morol Cymru trwy ddatblygu model gofodol. Mae'r haenau hyn o ddata yn cynrychioli ardaloedd a gafodd eu nodi fel ardaloedd addas o bosibl ar gyfer ffermio rhai rhywogaethau, yn seiliedig ar eu gofynion ecolegol yn unig ac adnoddau naturiol y dull o ffermio, cyn i unrhyw gyfyngiadau
...Mwy -
Fideos a delweddau llonydd a gasglwyd fel rhan o'r prosiect Rheoli Adnoddau Naturiol Morol mewn Modd Cynaliadwy (SMMNR).
-
Caiff Gorchmynion Pysgodfeydd Unigol a Rheoleiddio eu dyfarnu gan Weinidogion Cymru o dan delerau Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967, fel y’i diwygiwyd. Maent yn cael eu gwneud er mwyn sefydlu neu wella, a cynnal a chadw a rheoleiddio pysgodfeydd pysgod cregyn.
...Mwy
Mae Gorchymyn Rheoleiddio yn galluogi’r derbynnydd grant i reoleiddio pysgodfa naturiol drwy gyhoeddi -
Pwrpas y set ddata ofodol hon yw rhoi amcan o asedau treftadaeth forol sydd wedi’u cofnodi yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Cynhyrchwyd y set ddata gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a threfnwyd iddi fod ar gael i’r cyhoedd fel rhan o’n hymrwymiad i wella mynediad i ddata morol a stiwardiaeth ohono. Byddwn yn archifo data am yr amgylchedd hanesyddol morol fel un o
...Mwy -
Mae mapiau Erthygl 17 y Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn gipolwg o’r data gofodol mwyaf cyfamserol ar gyfer nodweddion a restrir yn amryw Atodiadau’r Gyfarwyddeb ar adeg y cofnodi. Maent yn cynrychioli maint/lleoliad a statws presennol y nodweddion oddi mewn ac oddi allan i Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Caiff mapiau Erthygl 17 eu hadolygu a’u diweddaru bob 6 blynedd fel rhan o broses
...Mwy -
Cafodd cyfyngiadau ecolegol allweddol sy’n berthnasol i ddatblygiadau dyframaeth, ynni ffrwd llanw ac ynni’r tonnau eu mapio fel rhan o brosiect Rheoli Adnoddau Naturiol Morol mewn Modd Cynaliadwy (SMMNR), a ariannwyd gan Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop. Mae’r haenau data hyn yn dangos cyfyngiadau cymharol lefel uchel ynglŷn ag adar y môr, pysgod, mamaliaid
...Mwy -
Sefydlwyd prosiect HABMAP mewn ymateb i’r angen am well ymwybyddiaeth gofodol o ddosbarthiad cynefinoedd ym Môr De Iwerddon. Mae’r gwaith hwn wedi cynhyrchu mapiau o gynefinoedd gwely’r môr gan ddefnyddio technegau modelau rhagfynegol arbennig. Mae Prosiect Ymestyn HABMAP wedi adeiladu ar y dulliau a ddatblygwyd yn y prosiect gwreiddiol, ac yn ailadrodd y gwaith
...Mwy -
Oceannet yw'r enw parth sy'n cael ei ddefnyddio gan y Rhwydwaith Data a Gwybodaeth Amgylchedd Morol (MEDIN). Mae'r hafan yn rhoi gwybodaeth am MEDIN fel partneriaeth o fudiadau sy'n cydweithio i wella mynediad at ddata morol a'i warchod. Gall defnyddwyr y wefan ddod o hyd i ddolenni ar sut i ddarganfod data morol, sut i gyflwyno a chreu metadata morol, sut i gael data ar rwydwaith MEDIN, cael
...Mwy -
Hafan Sefydliad Rheoli Morol Ei Mawrhydi.
-
Yn 2015 newidiwyd dynodiad y Warchodfa Natur Forol (GNF) yn Barth Cadwraeth Morol (PCM). Mae'r set ddata gofodol hon yn crynhoi ffiniau digidol Parthau Cadwraeth Morol, cyn Warchodfeydd Natur Morol, yng Nghymru. Mae’r Parthau Cadwraeth Morol a’r Gwarchodfeydd Natur Morol yn fodd o warchod cynefinoedd morol a nodweddion eraill, sydd o bwysigrwydd arbennig i fywyd gwyllt ar hyd yr
...Mwy -
Cytundeb a arwyddwyd gan nifer o wledydd Ewropeaidd (gan gynnwys y Deyrnas Unedig) yw Cynhadledd Gwarchod Amgylchedd Forwrol Gogledd-Ddwyrain yr Iwerydd a elwir yn Gynhadledd OSPAR 1998 ("Oslo Convention 1972 & Paris Convention 1974") er mwyn gwarchod ansawdd Gogledd-Ddwyrain yr Iwerydd. Amcan y Gynhadledd OSPAR yw cymryd pob cam posib i atal a dileu llygredd rhag mynd i mewn i'r môr.
...Mwy -
Mae'r set ddata hon bellach wedi' i disodli a'i newid i set ddata NCERM
Mae'r set ddata hon yn fersiwn fanylach o'r data Erydiad Arfordirol sydd ar gael hefyd ar Lle (Dolen Gyswllt). Mae'r map Rheoli Risg Erydiad Arfordirol Cenedlaethol (NCERM) yn dangos gwaelodlin arfordirol ofodol NCERM. Mae'r waelodlin hon wedi'i rhannu i 'ffryntiadau'. Diffinnir y rhain fel darnau o arfordir ac iddynt
...Mwy -
Mae’r cofnodion hyn yn cynnwys data cyfesurynnol cysylltiedig â cheisiadau am drwyddedau morol, neu maent wedi cael eu cyhoeddi neu wedi dod i ben ac yn rhai hanesyddol. Ceir hefyd safleoedd gwaredu sy’n gysylltiedig â cheisiadau carthu morol. Mae’r data hwn yn caniatáu i leoliadau ceisiadau am drwyddedau gael eu mapio i asesu ym mha ffyrdd y maent yn
...Mwy -
Cytunodd, nododd a dogfennodd CNC pa gynefinoedd a nodweddion ACA sy’n sensitif i ystod o weithgareddau Trwyddedu Morol Band 1. Mae’r set ddata’n cynnwys polygonau sy’n deillio o haenau Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth (Adran 7) / haenau OSPAR, haenau cynefinoedd ACA Rheoliad 25 a Cham 1 o’r arolwg rhynglanwol. Barnwyd bod pob un o’r cynefinoedd sydd
...Mwy