Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer
Ers mis Rhagfyr 1997 mae pob awdurdod lleol yn y DU wedi bod yn cynnal adolygiad ac asesiad o ansawdd aer yn eu hardal. Mae hyn yn cynnwys mesur llygredd aer a cheisio rhagweld sut y bydd hwn yn newid yn ystod y blynyddoedd nesaf. Nod yr adolygiad yw gwneud yn siŵr y bydd yr amcanion ansawdd aer cenedlaethol (PDF) yn cael ei gyflawni ledled y DU erbyn y dyddiadau cau perthnasol. Mae'r amcanion hyn wedi cael eu rhoi ar waith i ddiogelu iechyd pobl a'r amgylchedd.
Os yw awdurdod lleol yn canfod unrhyw fannau lle nad yw'r amcanion yn debygol o gael eu cyflawni, rhaid iddo ddatgan Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer (ARAA) yno. Gallai'r ardal hon fod yn un neu ddwy stryd, neu gallai fod yn llawer mwy.
Diweddariad diwethaf
1 Ionawr 2017
Hawlfraint
© Hawlfraint y Goron
Disgrifiad | Math | Diweddbwynt |
---|---|---|
Web Map Service (WMS) | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms (inspire-wg:aqmas) |
Web Feature Service (WFS) | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs (inspire-wg:aqmas) |
Cliciwch y dolenni lawrlwytho i'w hagor yn eich porwr, neu de-gliciwch a 'Cadw fel' i'w lawrlwytho i'ch peiriant