Llongddrylliadau a Warchodir
4.1 Cefndir
Dynodir ‘llongddrylliadau’ o dan Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau 1973.
Mae nifer o longddrylliadau yn y moroedd o amgylch Cymru. Er bod gwerth hanesyddol i bob un ohonynt, mae chwech yn cael eu diogelu'n gyfreithiol ar hyn o bryd. Gelwir y chwech hyn yn ‘llongddrylliadau dynodedig’ neu ‘longddrylliadau a warchodir’.
‘Llongddrylliad’ yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio rhywbeth sydd wedi cael ei golli ar y môr a gall hyn gynnwys rhywbeth a ddisgynnodd dros ochr llong, rhywbeth a daflwyd dros ochr y llong i'w hysgafnhau, neu'r llong ei hun.
4.2 Pa Mor Aml y Caiff y Wybodaeth ei Diweddaru
Er bod y broses o ddynodi llongddrylliadau yn un barhaus, mae'r set ddata gyfredol wedi aros yn gyson ers nifer o flynyddoedd. Fodd bynnag, er mwyn osgoi ailddefnyddio hen ddata, dylai defnyddwyr gael y fersiwn ddiweddaraf o Lle yn rheolaidd.
4.3 Darluniau
Nid yw siart sy'n dangos lleoliad Llongddrylliad a Warchodir yn rhan o'r cofnod swyddogol. Lluniwyd y darluniau GIS ar sail y wybodaeth leoliadol yn yr Offeryn Statudol a ddefnyddiwyd i ddynodi'r safle.
4.4 Defnyddio Data
Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar ddefnyddio'r data GIS hyn. Gall derbynyddion ailddefnyddio, atgynhyrchu neu ledaenu'r data hyn am ddim ar unrhyw ffurf neu mewn unrhyw gyfrwng ar yr amod eu bod yn gwneud hynny'n gywir gan gydnabod y ffynhonnell a'r hawlfraint fel y'u nodir (gweler isod), ac nad ydynt yn eu defnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Y derbynnydd sy'n gyfrifol am sicrhau bod y data yn addas i'r diben a fwriedir, nad yw lledaenu neu gyhoeddi'r data yn arwain at ddyblygu, a bod y data'n cael eu dehongli'n deg. Dylid ceisio cyngor ar ddehongli lle y bo angen. Caiff y data hyn eu gwirio'n rheolaidd, ond os ydych yn dymuno trafod y set ddata, cysylltwch â'r Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol (Cadw).
Wrth ddefnyddio'r data uchod o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, dylech gynnwys y datganiad priodoli canlynol: -
Data GIS ar Asedau Hanesyddol Dynodedig, Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Cymru (Cadw), DYDDIAD [y dyddiad y cawsoch y data gan Cadw], wedi'u trwyddedu o dan Drwydded Llywodraeth Agored http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg/version/3/
4.5 Gwybodaeth Arall
Mae rhagor o wybodaeth am Longddrylliadau a Warchodir i'w chael ar wefan y Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol (Cadw) drwy ddilyn y ddolen isod: -
http://cadw.gov.wales/historicenvironment/protection/maritimewrecks/?lang=cy
Mae'r disgrifiad o'r Dynodiad ar gael ar-lein yn Cof Cymru – Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru drwy ddilyn y ddolen isod: -
http://cadw.gov.wales/historicenvironment/recordsv1/cof-cymru/?lang=cy
4.6 Cyngor Cyffredinol
Mae nodiadau canllaw i bobl sy'n darganfod llongddrylliadau hanesyddol ac i ddeifwyr hamdden ar gael gan Cadw. Mae angen trwyddedau gan Weinidogion Cymru i fonitro, arolygu neu gloddio llongddrylliadau hanesyddol dynodedig.
Diweddariad diwethaf
Hawlfraint
© Hawlfraint y Goron
Disgrifiad | Math | Diweddbwynt |
---|---|---|
CADW Designated Wrecks | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:Cadw_DesignatedWrecks) |
CADW Designated Wrecks | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs (inspire-wg:Cadw_DesignatedWrecks) |
Disgrifiad | Fformat | Download Link |
---|---|---|
CADW Designated Wrecks | Shapefile | http://lle.gov.wales/catalogue/item/CADWDesignatedWrecks.zip |
CADW Designated Wrecks | GeoJSON | http://lle.gov.wales/catalogue/item/CADWDesignatedWrecks.json |
CADW Designated Wrecks | KML | http://lle.gov.wales/catalogue/item/CADWDesignatedWrecks.kml |
CADW Designated Wrecks | GML | http://lle.gov.wales/catalogue/item/CADWDesignatedWrecks.gml |