Coetiroedd Penodedig
Coetiroedd Penodedig
Cyflwynwyd y ‘Cynllun Penodi (Dedication Scheme) (Sail I & II) yn 1947 er mwyn annog perchnogion tir i ymrwymo i gadw’u tir mewn coedwigaeth ac i gyflwyno arfer coedwigaeth dda. Cyflwynwyd Sail III yn 1974, gan ddarparu grantiau ar gyfer plannu newydd ac arian ychwanegol ar gyfer coed llydanddail. Caewyd y cynllun i ymgeiswyr newydd yn 1981. Gallai tir oedd eisoes yn y cynllun aros felly ond byddai’r ymrwymiad yn dod i ben gyda newid perchnogaeth. Mae cynlluniau penodi sydd heb gynllun Gweithredu, ac felly ddim yn derbyn grant, yn cael eu hystyried i fod dan Gyfamod Caethiwus. Nodweddion Set Ddata: Disgrifydd : Enw Set Ddata Enw _ Achos: Enw Cynllun Ymrwymo Rhif _Achos: Cyfeirif Cynllun Ymrwymo Sail: Rhif Sail y Cynllun (I, II neu III) Dyddiad: Dyddiad y penodwyd y coetir Cynllun Gweithredu: Cyfnod Cyfamod Cynllun Gweithredu Presennol neu ddiwethaf : Cynllun o dan Gyfamod ‘Cadarnhaol’ neu ‘Gaethiwus’ Cyf Grid : Cyfeirnod Grid yr eiddo Enw’r Asiant : Enw’r asiant sy’n gweithredu ar ran y perchennog Cyfanswm arwynebedd : Cyfanswm arwynebedd y Cynllun (Ddim bob amser yn cynnwys OL) Ardal a reolir : Cyfanswm yr arwynebedd a reolir.
Cydnabyddiaeth
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans 100019741. Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata.
Diweddariad diwethaf
Hawlfraint
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans 100019741. Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata.
Disgrifiad | Math | Diweddbwynt |
---|---|---|
Web Map Service (WMS) | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/nrw (inspire-nrw:NRW_DEDICATED_WOODLANDS) |
Web Feature Service (WFS) | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs/nrw (inspire-nrw:NRW_DEDICATED_WOODLANDS) |