Cyfarwyddeb Sŵn Amgylcheddol 2017
Roedd gofyn i Lywodraeth Cymru o dan y Gyfarwyddeb Sŵn Amgylcheddol baratoi mapiau sŵn yn 2017. Mae’r pecyn data hwn yn cynnwys yr holl ffiniau lefelau sain a gyfrifwyd yn 2017, mewn bandiau o 5 desibel “wedi’u pwysoli ag A”. Ceir ynddo ddata gofodol hefyd am y ffynonellau gafodd eu modelu (y priffyrdd a safleoedd diwydiannol mewn crynodrefi).
Pwysig: (1) Er bod y Gyfarwyddeb yn eu disgrifio fel mapiau sŵn, byddai mapiau sain yn enw cywirach. Mae’r term sŵn yn cyfeirio at sain diangen neu niweidiol. (2) Amcangyfrifon, nid mesuriadau yw’r gwerthoedd a dylid eu trin yn ofalus mewn cysylltiad â lleoliadau penodol. (3) Mae ymateb pobl i sŵn diwydiannol yn dibynnu’n fawr ar natur y sain sy’n cael ei glywed a faint ohono y mae traffig ffyrdd yn ei guddio. Nid yw’r mapiau sŵn diwydiannol yn adlewyrchu’r ffactorau hyn sy’n golygu mai ychydig o werth ymarferol sydd iddynt i reoleiddwyr.
Sŵn traffig ffyrdd (priffyrdd)
-
LA10,18h: yn dangos y cyfartaledd sy’n uwch na’r lefelau sain am 10% o bob awr dros y cyfnod o 18 awr 0600 to 2400. Nid yw union yr un peth â’r dangosydd LA10,18h a ddefnyddiwyd yn y Rheoliadau Inswleiddio Sŵn gan y cyfrifir y gwerthoedd hyn 4 metr o’r llawr ac nid ydynt yn cynnwys sŵn sy’n adlewyrchu oddi ar furiau.
-
Lday: yn dangos cyfartaledd lefel y sain am y cyfnod o 12 awr 0700 - 1900.
-
Lden: yn dangos cyfartaledd lefel y sain am ddiwrnod cyfan, ond gan roi mwy o bwysoliad ar gyfer gyda’r nos a’r nos.
-
Levening: yn dangos cyfartaledd lefel y sain am y cyfnod o 4 awr 1900 - 2300.
-
Lnight: yn dangos cyfartaledd lefel y sain am y cyfnod o 8 awr 2300 - 0700. Yn debyg i’r dangosydd LAeq,8h a ddefnyddir yn asesiadau TAN11, ond yn cael ei fesur yn y fan yma 4 metr o’r llawr yn hytrach na 1.2-1.5 metr.
-
LAeq,16h: yn dangos cyfartaledd lefel y sain am y cyfnod o 16 awr 0700 - 2300. Yn debyg i’r dangosydd LAeq,16h a ddefnyddir yn asesiadau TAN11, ond yn cael ei fesur yn y fam yma 4 metr o’r llawn yn hytrach na 1.2-1.5 metr.
Sŵn diwydiannol (diwydiant mewn crynodrefi)
-
Lday: yn dangos cyfartaledd lefel y sain am y cyfnod o 12 awr 0700 - 1900.
-
Lden: yn dangos cyfartaledd lefel y sain am ddiwrnod cyfan, ond gan roi mwy o bwysoliad ar gyfer gyda’r nos a’r nos.
-
Levening: yn dangos cyfartaledd lefel y sain am y cyfnod o 4 awr 1900 - 2300.
-
Lnight: yn dangos cyfartaledd lefel y sain am y cyfnod o 8 awr 2300 - 0700. Yn debyg i’r dangosydd LAeq,8h a ddefnyddir yn asesiadau TAN11, ond yn cael ei fesur yn y fan yma 4 metr o’r llawr yn hytrach na 1.2-1.5 metr.
-
LAeq,16h: yn dangos cyfartaledd lefel y sain am y cyfnod o 16 awr 0700 - 2300. Yn debyg i’r dangosydd LAeq,16h a ddefnyddir yn asesiadau TAN11, ond yn cael ei fesur yn y fam yma 4 metr o’r llawn yn hytrach na 1.2-1.5 metr.
Setiau data ategol
-
Diwydiant: Safleoedd diwydiannol a nodwyd yn 2016 fel rhai sy’n gweithredu o dan drwyddedau amgylcheddol Rhan A ac sydd o fewn neu ar gyrion crynodref.
-
Prif-ffyrdd: ffyrdd a nodwyd yn 2016 fel ffyrdd â thros 3 miliwn o deithiau cerbydau arnyn nhw bob blwyddyn.
Diweddariad diwethaf
Disgrifiad | Math | Diweddbwynt |
---|---|---|
Sŵn diwydiannol (dB) - diwydiant mewn crynodrefi (Lday) 2017 | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:ind_lday_2017) |
Sŵn diwydiannol (dB) - diwydiant mewn crynodrefi (Lden) | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:ind_lden_2017) |
Sŵn diwydiannol (dB) - diwydiant mewn crynodrefi (Leve) 2017 | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:ind_leve_2017) |
Sŵn diwydiannol (dB) - diwydiant mewn crynodrefi (Lnight) 2017 | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:ind_lngt_2017) |
Sŵn diwydiannol (dB) - diwydiant mewn crynodrefi (LAeq, 16h) 2017 | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:ind_lq16_2017) |
Sŵn traffig ffyrdd (dB) - priffyrdd (LA10,18h) 2017 | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:mrd_l1018_2017) |
Sŵn traffig ffyrdd (dB) - priffyrdd (Lden) 2017 | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:mrd_lden_2017) |
Sŵn traffig ffyrdd (dB) - priffyrdd (Levening) 2017 | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:mrd_leve_2017) |
Sŵn traffig ffyrdd (dB) - priffyrdd (Lnight) | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:mrd_lngt_2017) |
Sŵn traffig ffyrdd (dB) - priffyrdd (Lday), 2017 | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:mrd_lday_2017) |
Sŵn traffig ffyrdd (dB) - priffyrdd (LAeq, 16h) 2017 | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:mrd_lq16_2017) |
Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn - Ardaloedd Diwydiant 2017 | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:r3industrylocations_2017) |
Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn - Priffyrdd, 2017 | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:majorroadsr3_2017) |
Ardaloedd Blaenoriaeth Cynlluniau Gweithredu ynghylch Sŵn – Rheilffyrdd 2017 | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:priorityareas_railways_2017) |
(Noise Action Plan) Priority/Proximity Areas (Roads) | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:merged_priority_proximity_areas_road_2017) |
Disgrifiad | Fformat | Download Link |
---|---|---|
Data Sŵn Amgylcheddol (2017) | Amrywiol / arall | http://lle.gov.wales/downloads/wg/EnvironmentalNoiseMapping_shp_2017.zip |