Cyfleoedd Mynediad Glastir – Lle
Beth yw diben y syllwr ar-lein?
Defnyddir y syllwr ar-lein i roi gwybod i’r cyhoedd am lwybrau uniongyrchol caniataol ac ardaloedd mynediad sydd ar gael drwy Glastir.
Ymwybyddiaeth o Fynediad Caniataol Glastir
Mae Contractau Glastir yn sicrhau gwelliannau amgylcheddol mewn sawl maes gan gynnwys darparu llwybrau uniongyrchol newydd a mynediad i ardaloedd newydd.
Mae manylion llwybrau Mynediad Caniataol Glastir ar gael ar wefan Lle i ddefnyddwyr allu cynllunio’u teithiau ymlaen llaw.
Mae tudalen Lle Mynediad Glastir hefyd yn caniatáu i ddefnyddwyr edrych ar wybodaeth arall gan gynnwys gwybodaeth am fynediad megis llwybrau hamdden a thir mynediad o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (2000). Mae Map Sylfaen yr Arolwg Ordnans yn galluogi defnyddwyr i gysylltu cyfleoedd Mynediad Glastir â hawliau tramwy cyhoeddus a mannau hygyrch gwyrdd a glas eraill.
Ceir rhagor o wybodaeth am Glastir yma
Gall llwybrau tramwy newid ac efallai nad fyddant wedi’u marcio’n glir. Dylech gysylltu â’r awdurdod lleol perthnasol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.
Canllawiau er mwyn gweld Llwybrau / Ardaloedd Glastir:
- trowch yr haen OS i ffwrdd er mwyn canfod y llwybrau Glastir yn eich ardal leol.
- trowch yr haen yn ôl ymlaen ar ôl chwyddo mewn ar y llwybr o dan sylw.
- defnyddiwch y cyrchwr i symud y map.
- cliciwch ar y llwybr er mwyn gweld gwybodaeth bellach.
Dangos Rhaglen
Diweddariad diwethaf
Hawlfraint
© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata’r Goron 2021. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100021874