Arolwg Gwastraff Diwydiannol a Masnachol Cymru 2018
Diben yr astudiaeth hon oedd cynhyrchu gwybodaeth am symiau, tarddiadau (yn ôl sector diwydiant a rhanbarth daearyddol), a thynged (dull rheoli) gwastraff Diwydiannol a Masnachol a gynhyrchwyd gan fusnesau yng Nghymru yn 2018.
Mae’r wybodaeth hon yn ofynnol gan Lywodraeth Cymru am nifer o resymau gan gynnwys:
- adrodd ar gynhyrchu gwastraff yn unol â Rheoliadau Ystadegau Gwastraff yr UE 2002;
- cyfarwyddo datblygiad polisi gwastraff cenedlaethol;
- monitro cynnydd yn erbyn targedau atal ac ailgylchu gwastraff cenedlaethol;
- hysbysu cynllunwyr gwastraff a'r rheoleiddiwr; a
- darparu data i'r diwydiant rheoli gwastraff i gyfarwyddo penderfyniadau buddsoddi.
Casglwyd data o sampl gynrychioliadol o 1,755 safle busnes o wahanol sectorau a meintiau ledled Cymru rhwng mis Ebrill 2019 a mis Hydref 2019. Cafodd y data ei grosio gan ddefnyddio data poblogaeth safleoedd busnes y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i lefel ranbarthol a chenedlaethol yng Nghymru. Roedd y fethodoleg a ddefnyddiwyd yn yr arolwg hwn yn gymharol ar y cyfan â’r arolygon Diwydiannol a Masnachol blaenorol a gwblhawyd yng Nghymru, y darparodd y rhai mwyaf diweddar ohonynt ddata ar gyfer blwyddyn galendr 2012.
Y manwl gywirdeb ar gyfer cyfanswm y gwastraff a gynhyrchwyd yw +/- 4.54% gyda hyder o 90%.
Cydnabyddiaeth
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl.
Diweddariad diwethaf
Hawlfraint
Cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a hawliau cronfa ddata
Fformat | Download Link |
---|---|
Amrywiol / arall | https://naturalresourceswales.sharefile.eu/d-sc091f8c5bb4f40bd8f6273143a6dbad5 |