Ardaloedd Blaenoriaeth ar gyfer Rhwydweithiau Gwresogi Ardal
Mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC) wedi nodi 14 o ardaloedd y gellid rhoi blaenoriaeth ar gyfer datblygu rhwydweithiau gwresogi ardal ynddynt.
System o bibellau yw Rhwydwaith Gwresogi Ardal sy'n cario gwres o ffynhonnell ganolog i wresogi nifer o adeiladau preswyl a busnes. O ganlyniad, nid oes angen ffynonellau gwres ar wahân yn yr adeiladau unigol hynny. Gallai'r ffynhonnell gwres fod yn gyfleuster sy'n cynhyrchu gwres yn unswydd ar gyfer y rhwydwaith neu fe allai'r gwres fod yn isgynnyrch proses ddiwydiannol. Gallai ffynhonnell y gwres fod yn garbon isel o'r cychwyn neu gellid ei newid yn ddiweddarach i ddatgarboneiddio rhannau eang o dref neu ddinas.
Mae'r FfDC drafft am weld y system gynllunio yng Nghymru'n sbarduno creu rhwydweithiau gwresogi trwy glustnodi Ardaloedd Blaenoriaeth lle gallai awdurdodau cynllunio lleol asesu cyfleoedd i ddatblygu Rhwydweithiau Gwresogi Ardal. Hefyd, dylai pob datblygiad mawr newydd gael ei gysylltu â Rhwydwaith Gwresogi Ardal os yn bosibl.
Cliciwch yma i weld y data galw am wres ar fap.
Disgrifiad | Math | Diweddbwynt |
---|---|---|
translate | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:_ndf_heat_50_new) |
translate | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:_ndf_heat_250) |
translate | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:_ndf_heat_500) |
translate | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:_ndf_heat_1000) |
translate | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:_ndf_heat_stack) |
translate | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:_ndf_heat_thresh) |
translate | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:heat_output_above_threshold_by_postcode) |
translate | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:heat_output_by_postcode) |