Polisi 17 – Ardaloedd wedi’u rhag-asesu ar gyfer ynni’r gwynt
Caiff yr ardaloedd a gaiff eu hasesu ymlaen llaw ar gyfer Ynni Gwynt eu dynodi gan Cymru'r Dyfodol (y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol) fel ardaloedd lle rhagdybir o blaid datblydiadau ynni gwynt ar raddfa fawr, a hynny'n amodol ar asesiadau polisi manwl a gynhwysir o fewn y ddogfen. Byddai angen i unrhyw gynllun gael ei asesu gan ddilyn y prosesau statudol ar gyfer ceisiadau cynllunio.
Mae'r Senedd wrthi'n craffu ar Cymru'r Dyfodol a bydd fersiwn derfynol o'r ddogfen yn cael ei chyhoeddi ar ddechrau 2021. Mae'r ardaloedd hyn yn parhau'n ardaloedd drafft a gallent newid cyn i'r fersiwn derfynol o'r ddogfen gael ei chyhoeddi.
Cysylltwch â thîm y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol i gael rhagor o wybodaeth: ndf@gov.wales
Diweddariad diwethaf
28 Hydref 2020
Hawlfraint
© Hawlfraint y Goron
Disgrifiad | Math | Diweddbwynt |
---|---|---|
Web Map Service (WMS) | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:ndf_preassessed_areas_for_wind_energy) |
Web Feature Service (WFS) | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs/wg (inspire-wg:ndf_preassessed_areas_for_wind_energy) |
Cliciwch y dolenni lawrlwytho i'w hagor yn eich porwr, neu de-gliciwch a 'Cadw fel' i'w lawrlwytho i'ch peiriant