Cyfnod 2 Arolwg o Fawndiroedd yr Iseldir yng Nghymru
Roedd y set ddata hon yn rhan o arolygon cynefinoedd Cyfnod 2 a gynhaliwyd ledled Cymru. Mae'n cynnwys arolwg manwl o gymunedau planhigion yn llystyfiant mawndiroedd yr iseldir. Prif nod yr arolwg yw nodi a gwerthuso'r llystyfiant sydd ym mawndiroedd iseldir Cymru er mwyn sicrhau bod safleoedd mawndir pwysig yn cael eu nodi, eu diogelu a'u rheoli. Mae'r holl set ddata wedi'i chadarnhau a'i dilysu'n drwyadl gan arbenigwyr arolygu llystyfiant Cyfoeth Naturiol Cymru. Gall cyfansoddiad cynefinoedd newid dros amser o ganlyniad i dueddiadau olynol, rheolaeth tir neu hyd yn oed ddatblygiadau arfaethedig. Felly, ni ellir bod yn sicr bod math o lystyfiant neu rywogaeth yn parhau i fodoli am ei fod wedi'i gofnodi yn y data digidol.
Cydnabyddiaeth
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans 100019741. Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata.
Diweddariad diwethaf
Hawlfraint
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans 100019741. Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata.
Fformat | Download Link |
---|---|
Shapefile | https://naturalresourceswales.sharefile.eu/d-s5da018fd0bd14e57811a65c69164c91f |