Cyfnod 2 Arolygon o Ucheldiroedd yng Nghymru
Mae'r set ddata hon yn cynnwys allbynnau gofodol arolygiadau llystyfiant ar gyfer Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn ucheldir Cymru i lefel Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol. Diben casglu'r data hwn oedd darparu data ar raddau a dosbarthiad cymunedau llystyfiant yn ucheldir Cymru at ddibenion cynllunio, hysbysu a rheoli. Mae'r set ddata wedi'i chadarnhau a'i dilysu'n drwyadl. Fodd bynnag, gall cyfansoddiad cynefinoedd newid dros amser o ganlyniad i dueddiadau olynol, rheolaeth tir neu hyd yn oed ddatblygiadau arfaethedig. Felly, ni ellir bod yn sicr bod math o lystyfiant neu rywogaeth yn parhau i fodoli am ei fod wedi'i gofnodi yn y data digidol.
Cydnabyddiaeth
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans 100019741. Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata.
Diweddariad diwethaf
Hawlfraint
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans 100019741. Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata.
Fformat | Download Link |
---|---|
Shapefile | https://naturalresourceswales.sharefile.eu/d-s01a54bc461d84dfab93a2db12f3596b9 |