Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA)
Mae'r set ddata gofodol hon yn cynnwys ffiniau Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) a ddynodwyd yng Nghymru. Daeth Cyfarwyddeb Cynefinoedd a Rhywogaethau'r Gymuned Ewropeaidd i rym yn1992 gyda'r nod o warchod bioamrywiaeth trwy ddiogelu ystod eang o gynefinoedd a rhywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion. Mae pob ACA, ynghyd ag Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) a ddynodwyd o dan Gyfarwyddeb Adar Gwyllt y Gymuned Ewropeaidd i ddiogelu rhywogaethau prin a mudol o adar, yn cynnwys rhwydwaith o safleoedd ar draws yr UE a elwir yn 'Natura 2000'. Cynigiwyd y rhan fwyaf o ACA yng Nghymru yng nghanol y 1990au ac fe'u dynodwyd yn ffurfiol yn 2004. Cafodd ACA eu mapio yn wreiddiol ar bapur ond ers tua 2000 mae data’r ffiniau wedi ei gipio yn ddigidol. Mae’r safleoedd ACA a ddangosir yn y set ddata yma wedi cwblhau'r broses gyfreithiol lawn o ddynodi.
Cydnabyddiaeth
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans 100019741. Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata.
Diweddariad diwethaf
Hawlfraint
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans 100019741. Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata.
Disgrifiad | Math | Diweddbwynt |
---|---|---|
Web Map Service (WMS) | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/nrw (inspire-nrw:NRW_SAC) |
Web Feature Service (WFS) | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs/nrw (inspire-nrw:NRW_SAC) |