Cynefinoedd Cymru: Gorchudd cynefin Cyfnod i digidol
Mae'r cofnodion data yn cynnwys data cynefin cynhwysfawr am Gymru gyfan sy'n deillio o raglen o gofnodion maes a ddechreuwyd gan Uned Faes Cymru, yn rhan o Gyngor Cadwraeth Natur yn 1979 ac a barhawyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru yn dilyn ail-strwythuro yn 1991. Pwrpas y data hwn yw darparu gwybodaeth ar benderfyniadau polisi, gwaith achos, dewis safleoedd. Gwnaed y gwaith maes mewn dau brif gam. Arolygwyd y rhan fwyaf o'r uwchdiroedd yn ystod y cam cyntaf (Arolwg Llystyfiant Uwchdiroedd), a cafodd ardaloedd eu dosbarthu i fathau o gynefinoedd gan ddefnyddio dosbarthiadau Ratcliffe a Birks. Arolygwyd gweddill Cymru gan gynnwys yr iseldiroedd a rhai ardaloedd uwchdirol nad arolygwyd cynt yn ystod yr ail gam (y cam iseldirol), a cafodd cynefinoedd eu rhoi yn nosbarth Cam I, gyda rhai addasiadau'n cael eu defnyddio ar gyfer defnydd yng Nghymru.
Mae’r set ddata hon yn cynnwys yr haenau canlynol:
- Voronoi Llystyfiant: Yn dangos ffiniau a phriodoleddau polygonau llystyfiant gydag israniadau polygonau llystyfiant cynefin cymysg yr ucheldir wedi eu hisrannu i’w cynefinoedd cyfansoddol
- Cynefin: Data pwyntiau yn dangos lleoliad cynefinoedd a fapiwyd mewn polygonau cynefin cymysg yn ystod yr Arolwg Llystyfiant yr Ucheldir
- Voronoi Mospolys: Grid wedi ei liwio mewn patrwm sgwarog yn ôl Phase1_Code ac mewn cyfrannedd â’u gallu i ganiatáu gweld mosaigau
- Voronoi Mosnotes: Data pwyntiau i ddisgrifio cyfansoddiad cynefin a wnaed o bolygonau mosäic
- Llystyfiant Gwasgaredig: data pwyntiau yn dangos lleoliad llystyfiant gwasgaredig
- Nodiadau Targed: cofnod o leoliad a chyfeirnod nodiadau targed Cam 1
- Voronoi Mosäic: Tabl pori i gyflenwi mathau o gynefinoedd, ardaloedd a chyfraneddau ar gyfer polygonau mosäic
Gweler y metadata i gael rhagor o fanylion.
Cydnabyddiaeth
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans 100019741. Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata.
Diweddariad diwethaf
Hawlfraint
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans 100019741. Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata.
Disgrifiad | Math | Diweddbwynt |
---|---|---|
Web Map Service (WMS) | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/nrw (inspire-nrw:NRW_PH1_VEG_VORONOI) |
Web Feature Service (WFS) | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs/nrw (inspire-nrw:NRW_PH1_VEG_VORONOI) |
Fformat | Download Link |
---|---|
Amrywiol / arall | https://naturalresourceswales.sharefile.eu/d-sfc5b5bda4d84b959 |