Maes Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019
MALIC yw dull swyddogol Llywodraeth Cymru o fesur amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Ei nod yw canfod yr ardaloedd bach hynny o'r wlad sydd â'r crynoadau uchaf o sawl math gwahanol o amddifadedd. Amddifadedd yw'r diffyg mynediad i gyfleoedd ac adnoddau y byddem yn eu disgwyl yn ein cymdeithas. Gall hyn fod yn nhermau nwyddau materol neu allu'r unigolyn i gymryd rhan ym mywyd cymdeithasol arferol y gymuned.
Grŵp o fesuriadau gwahanol wedi'u cyfuno'n un rhif yw Mynegai. Mae MALlC yn cynnwys wyth maes (neu fath) gwahanol o amddifadedd:
- Incwm
- Cyflogaeth
- Iechyd
- Addysg
- Mynediad at wasanaethau
- Tai
- Diogelwch cymunedol
- Amgylchedd ffisegol
Mae MALlC yn rhoi graddfa i bob ardal bach yng Nghymru o 1 (mwyaf difreintiedig) i 1,909 (lleiaf difreintiedig). Nid yw'n rhoi mesuriad o lefel amddifadedd mewn ardal.
Adnoddau eraill MALlC
Mae data ar safleoedd a dangosyddion MALlC ar gael i'w lawrlwytho o StatsCymru.
Mae'r ardal MALlC ar ein gwefan Ystadegau ac ymchwil yn cynnwys datganiadau blaenorol o ddata yn ogystal â newyddion a diweddariadau. Gellwch hefyd ffeindio:
- Crynodebau data MALlC 20119, gan gynnwys ein prif Adroddiad Canlyniadau
- Canllaw ac Adroddiad Technegol MALlC 2019
- Gwybodaeth geo-ofodol ar MALlC 2019 ar y Porth daear i Gymru, "Lle".
- MALlC 2014 gwefan rhyngweithiol
Diweddariad diwethaf
Hawlfraint
© Hawlfraint y Goron
Disgrifiad | Math | Diweddbwynt |
---|---|---|
Cyffredinol | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:wimd2019_overall) |
Cyffredinol | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs/wg (inspire-wg:wimd2019_overall) |
Mynediad i Wasanaethau | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:wimd2019_access_to_services) |
Mynediad i Wasanaethau | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs/wg (inspire-wg:wimd2019_access_to_services) |
Diogelwch Cymunedol | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:wimd2019_community_safety) |
Diogelwch Cymunedol | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs/wg (inspire-wg:wimd2019_community_safety) |
Addysg | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:wimd2019_education) |
Addysg | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs/wg (inspire-wg:wimd2019_education) |
Cyflogaeth | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:wimd2019_employment) |
Cyflogaeth | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs/wg (inspire-wg:wimd2019_employment) |
Iechyd | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:wimd2019_health) |
Iechyd | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs/wg (inspire-wg:wimd2019_health) |
Tai | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:wimd2019_housing) |
Tai | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs/wg (inspire-wg:wimd2019_housing) |
Incwm | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:wimd2019_income) |
Incwm | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs/wg (inspire-wg:wimd2019_income) |
Amgylchedd Ffisegol | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:wimd2019_physical_environment) |
Amgylchedd Ffisegol | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs/wg (inspire-wg:wimd2019_physical_environment) |