Safleoedd Treftadaeth y Byd yn Cymru
1.1 Cefndir
Mae Safleoedd Treftadaeth y Byd yn lleoedd y mae Pwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO wedi eu harysgrifo ar restr o safleoedd rhyngwladol oherwydd eu gwerth cyffredinol eithriadol y mae eu pwysigrwydd mor fawr y mae'n rhychwantu ffiniau cenedlaethol.
Ar hyn o bryd mae gan Gymru bedwar safle treftadaeth y byd – Cestyll a Muriau Tref Edward I yng Nghaernarfon, Conwy, Biwmares a Harlech yng Ngogledd-orllewin Cymru; Tirwedd lechi gogledd-orllewin Cymru; Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn Ne-ddwyrain Cymru; a Thraphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.
1.2 Pa Mor Aml y Caiff y Wybodaeth ei Diweddaru
Er bod y broses o arysgrifo Safleoedd Treftadaeth y Byd yn un barhaus, mae'n broses hir a all gymryd nifer o flynyddoedd i'w chwblhau. Fodd bynnag, er mwyn osgoi ailddefnyddio hen ddata, dylai defnyddwyr gael y fersiwn ddiweddaraf o Lle yn rheolaidd.
1.3 Darluniau
Gall darlun o Safle Treftadaeth y Byd gynnwys nifer o rannau, er enghraifft: -
- Safle Treftadaeth y Byd
- Lleoliadau Hanfodol
- Golygfa Gylchran
- Golygfeydd Pwysig
Mae rhagor o wybodaeth am y rhannau hyn i'w chael ar wefan y Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol (Cadw).
Mae pob cofnod swyddogol o Safle Treftadaeth y Byd yn cynnwys map. Gellir gweld copïau o fapiau'r arysgrifau gwreiddiol ar wefan Confensiwn Treftadaeth y Byd UNESCO.
Mae'r set ddata hon wedi bod yn destun rhaglen Gwella Cywirdeb Lleoliadol.
1.4 Defnyddio Data
Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar ddefnyddio'r data GIS hyn. Gall derbynyddion ailddefnyddio, atgynhyrchu neu ledaenu'r data hyn am ddim ar unrhyw ffurf neu mewn unrhyw gyfrwng ar yr amod eu bod yn gwneud hynny'n gywir gan gydnabod y ffynhonnell a'r hawlfraint fel y'u nodir (gweler isod), ac nad ydynt yn eu defnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Y derbynnydd sy'n gyfrifol am sicrhau bod y data yn addas i'r diben a fwriedir, nad yw lledaenu neu gyhoeddi'r data yn arwain at ddyblygu, a bod y data'n cael eu dehongli'n deg. Dylid ceisio cyngor ar ddehongli lle y bo angen. Caiff y data hyn eu gwirio'n rheolaidd, ond os ydych yn dymuno trafod y set ddata, cysylltwch â'r Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol (Cadw).
Wrth ddefnyddio'r data uchod o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, dylech gynnwys y datganiad priodoli canlynol: -
Data GIS ar Asedau Hanesyddol Dynodedig, Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Cymru (Cadw), DYDDIAD [y dyddiad y cawsoch y data gan Cadw], wedi'u trwyddedu o dan Drwydded Llywodraeth Agored http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg/version/3/
1.5 Gwybodaeth Arall
Mae'r disgrifiad o'r Dynodiad ar gael ar-lein yn Cof Cymru – Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru.
1.6 Cyngor Cyffredinol
Dylai pob ymholiad cynllunio a all effeithio ar Safle Treftadaeth y Byd, ei leoliad neu olygfa bwysig gael ei gyfeirio at Cadw. Cynghorir ymgeiswyr hefyd i geisio cyngor cyn cynllunio, a hynny'n gynnar yn y broses gynllunio, er mwyn rhoi sylw i faterion a allai godi o bosibl yn nes ymlaen.
Diweddariad diwethaf
Hawlfraint
© Hawlfraint y Goron
Disgrifiad | Math | Diweddbwynt |
---|---|---|
WHS - Site Boundary | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:vGeoServer_WorldHeritageSites_Public) |
WHS - Significant Views | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:cadw_whs_significant_view) |
WHS - Arcs of View | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:cadw_whs_arcs_of_view) |
WHS - Essential Settings | WMS | http://lle.gov.wales/services/wms/wg (inspire-wg:cadw_whs_essential_setting) |
WHS - Site Boundary (WFS) | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs/wg (inspire-wg:vGeoServer_WorldHeritageSites_Public) |
WHS - Significant Views (WFS) | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs/wg (inspire-wg:cadw_whs_significant_view) |
WHS - Arcs of View (WFS) | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs/wg (inspire-wg:cadw_whs_arcs_of_view) |
WHS - Essential Settings (WFS) | WFS | http://lle.gov.wales/services/wfs/wg (inspire-wg:cadw_whs_essential_setting) |