Catalog
30 Canlyniadau
-
Mae adeiladau a strwythurau o bwysigrwydd cenedlaethol yn cael diogelwch cyfreithiol drwy gael eu rhoi ar ‘Restr’ o Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig. O dan Adran 1 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chynnal y rhestr hon.
Cynhaliwyd yr arolygiadau cyntaf o'r Rhestr yn y cyfnod
...Mwy -
Mae'r set ddata gofodol hon yn cynnwys ffiniau Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) a ddynodwyd yng Nghymru. Daeth Cyfarwyddeb Cynefinoedd a Rhywogaethau'r Gymuned Ewropeaidd i rym yn1992 gyda'r nod o warchod bioamrywiaeth trwy ddiogelu ystod eang o gynefinoedd a rhywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion. Mae pob ACA, ynghyd ag Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) a ddynodwyd o dan Gyfarwyddeb Adar
...Mwy -
Mae'r set ddata gofodol hon yn crynhoi ffiniau digidol yr holl Ardaloedd Gwarchodaeth Gofodol (AGG) yng Nghymru. Yn unol â Chyfarwyddeb Adar 1979 y CE rhaid i aelod wladwriaethau sefydlu AGA i warchod cynefinoedd dau gategori o adar:
i) Rhywogaethau sy'n brin neu'n fregus - mae pedwar deg wyth ohonynt yn y DU.
ii) Rhai rhywogaethau mudol sy'n ymweld â'n glannau yn
...Mwy -
Mae'r set ddata gofodol hon yn crynhoi ffiniau digidol yr holl Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yng Nghymru. Dynodir AHNE dan Ddeddf Cefn Gwlad 1949, ond yn wahanol i Barciau Cenedlaethol, nid yw AHNE yn cael eu creu’n benodol ar gyfer cyfleoedd hamdden. Fodd bynnag, mae hamdden yn dderbyniol o fewn AHNE os yw'n gyson â chadwraeth a gwella harddwch naturiol ac anghenion
...Mwy -
Mae'r set ddata hon yn cynnwys tair 'shapefile' sy'n dangos maint ardaloedd sensitif (ewtroffig) y Gyfarwyddeb Trin Dŵr Gwastraff Trefol (91/271/EEC). Mae'r Gyfarwyddeb Trin Dŵr Gwastraff Trefol yn disgrifio ewtroffigedd fel 'cyfoethogiad dŵr gan faetholion, yn arbennig cyfansoddion o nitrogen a/neu ffosfforws, sy'n achosi twf cyflymach mewn algâu a ffurfiau uwch o fywyd planhigion i
...Mwy -
Mae'r set ddata hon yn 'shapefile' sy'n dangos maint ardaloedd sensitif (nitradau) y Gyfarwyddeb Trin Dŵr Gwastraff Trefol (91/271/EEC). Mae'r Gyfarwyddeb Trin Dŵr Gwastraff Trefol (91/271/EEC) yn rheoleiddio'r gwaith o gasglu a thrin dŵr gwastraff o gartrefi a chan ddiwydiant. Yn y DU, caiff y gyfarwyddeb ei rhoi ar waith trwy Reoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol 1994. Yn ôl y rheoliadau
...Mwy -
Mae'r set ddata gofodol hon yn crynhoi ffiniau arfordiroedd treftadaeth yng Nghymru. Mae tua thraean, sef 500 km (300 milltir), o arfordiroedd Cymru’n Arfordiroedd Treftadaeth. Sefydlwyd y safleoedd hyn er mwyn amddiffyn ein harfordiroedd rhag datblygiadau ansensitif. Diffinnir y mwyafrif ohonynt yn syml gan y morlin rhwng dau bwynt a enwyd, fodd bynnag, mae gan rai ffiniau mewndirol amlwg.
...Mwy -
Mae diwygiadau i ganllawiau monitro'r Cydbwyllgor Cadwraeth Natur wedi’i gwneud yn ofynnol i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) adolygu ei amcanion cadwraeth ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig sy’n seiliedig ar afonydd yng Nghymru, yn enwedig o ran ffosfforws, lle mae'r targedau wedi'u tynhau'n sylweddol. Crëwyd y data hwn i nodi cydymffurfiaeth â'r targedau ffosfforws
...Mwy -
Rheoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007 yw'r unig reoliad sy'n rhoi rheolaeth dros golli cynefinoedd lled-naturiol heb eu dynodi yn sgil gwaith gwella amaethyddol yng Nghymru. Diben y Rheoliad yw caniatáu prosiectau amaethyddol nad ydynt yn cael effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd a sicrhau ar yr un pryd fod tir ac iddo bwysigrwydd amgylcheddol, hanesyddol
...Mwy -
Mae mapiau nodweddion ACA Rheoliad 35 yn cynnig llinell sylfaen ddangosol yn ymwneud â maint a statws (h.y. statws a/neu hyder “Pendant” neu “Botensial”) ar gyfer nodweddion ACA adeg dynodi’r safle. Dyma’r mapiau y dylid eu defnyddio i asesu effeithiau posibl cynlluniau a phrosiectau, ac ar gyfer cyngor yn ymwneud â gwaith achos. Maent hefyd yn
...Mwy -
Mae system wybodaeth ar natur Ewrop sef EUNIS, yn dod â data Ewropeaidd o sawl cronfa ddata a sefydliadau ynghyd â’i ffurfio yn dair modiwl cydgysylltiedig ynghylch mathau o safleoedd, rhywogaethau a chynefinoedd.
-
Ffiniau ardaloedd cadwraeth yng Nghymru, er mwyn cydymffurfio â s.70(5) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Mae'r ddata yn darparu gwybodaeth ar ffiniau'r map unig. I gael y wybodaeth lawn, gan gynnwys gwybodaeth ar ddynodiadau, dylai unigolion gysylltu â'r Awdurdod Lleol priodol.
-
Dengys yr haen hon ffiniau allanol cyfreithiol tir sydd ym mherchnogaeth y Comisiwn Coedwigaeth (CC) a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Nid yw'n dangos y ffiniau mewnol cyfreithiol. Mae gan bob polygon ddau brif briodoledd:COSTCENTRE · Rhif Canolfan Gost COSTCENT_1 · enw Ardal Goedwig. Ystadau, Cynllunio Coedwig, mae MGIU a ESRI (UK) Ltd wedi datblygu'r Estyniad
...Mwy -
Mae hon yn set ddata gofodol o ffiniau'r Gwarchodfeydd Biogenetig yng Nghymru. Mae Gwarchodfeydd Biogenetig yn anelu at warchod fflora, ffawna ac ardaloedd naturiol Ewropeaidd, yn enwedig rhostiroedd a glaswelltiroedd sych, sydd o bosib yn gyffredin mewn un wlad ond yn brin mewn un arall. Fel hyn mae storfa o ddeunydd genetig - genynnau planhigion ac anifeiliaid - yn cael ei chadw ar gyfer y
...Mwy -
Mae’r set ddata gofodol hon yn crynhoi ffiniau'r Gwarchodfeydd Biosfferig yng Nghymru. Mae Gwarchodfa Biosfferig yn ddynodiad gan UNESCO ar sail enwebiadau gan ragor na 110 o wledydd. Dewisir y safleoedd er mwyn gwarchod esiamplau o ardaloedd sy’n nodweddiadol o ardaloedd naturiol y byd. Rhaid iddynt hefyd fod yn ardaloedd lle mae pobl yn rhan bwysig o fywyd pob
...Mwy -
Mae'r set ddata gofodol hon yn crynhoi ffiniau digidol Gwarchodfeydd Natur Lleol (GNLl) yng Nghymru. Mae gwarchodfeydd Natur Lleol yn cael eu sefydlu a'u rheoli gan awdurdodau lleol, yn dilyn ymgynghoriad â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Er mwyn i safle gael ei dynodi’n Warchodfa Natur Leol rhaid iddi gael nodweddion
...Mwy -
Mae'r set ddata gofodol hon yn crynhoi ffiniau digidol safleoedd Ramsar yng Nghymru. Wrth gadarnhau'r Confensiwn yn 1976, ymrwymodd llywodraeth y DU i hyrwyddo cadwraeth safleoedd gwlyptir o bwysigrwydd rhyngwladol o fewn ei thiriogaethau. Mae gwlyptiroedd yn hanfodol ar gyfer llawer o fathau o adar yn enwedig adar dŵr, ac mae gan Gymru rai o’r prif safleoedd sy'n hanfodol i oroesiad llawer
...Mwy -
Mae safleoedd dynodedig yng Nghymru yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA), Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) a safleoedd Ramsar. Caiff y safleoedd hyn eu rhannu’n unedau rheoli. Mae’r set ddata hon yn cynnwys ffiniau’r unedau hyn, ynghyd â gwybodaeth am y math o ddynodiad,
...Mwy -
Mae safleoedd archaeolegol o bwysigrwydd cenedlaethol yn cael diogelwch cyfreithiol drwy gael eu rhoi ar ‘Gofrestr’ o henebion. O dan Ddeddf Henebion a Mannau Archaeolegol 1979, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru gasglu a chynnal y gofrestr hon.
Mae mwy na 4000 o enghreifftiau o Henebion Cofrestredig yng Nghymru, sy'n cynnwys olion Rhufeinig, carneddi, cestyll, pontydd, cloddwaith,
...Mwy -
Mae Map Mawn Unedig Cymru yn seiliedig ar gyfuniad o'r haenau canlynol:
Mawn wyneb Arolwg Daearegol Prydain
Mawn arolwg y Comisiwn Coedwigaeth
Arolwg mawn yr iseldir (Cyfoeth Naturiol Cymru)
...Mwy -
Mae mapiau adrodd Erthygl 17 y Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn gipolwg o'r data gofodol ar gyfer nodweddion sydd wedi’u rhestru ar wahanol Atodiadau'r Gyfarwyddeb yn ystod y cyfnod adrodd. Maent yn cynrychioli maint a lleoliad hysbys nodweddion yng Nghymru. Gellir cael y mapiau dosbarthu cynefinoedd 10km2 diweddaraf a gyflwynwyd fel rhan o'r adroddiadau Erthygl 17 swyddogol gan y
...Mwy -
Mae'r set ddata gofodol hon yn crynhoi ffiniau’r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru. Sefydlwyd y Parciau Cenedlaethol er mwyn gwarchod cefn gwlad brydferth a chymharol wyllt trwy:
- Cadw harddwch nodweddiadol y dirwedd;
- Darparu mynediad a chyfleusterau ar gyfer mwynhad cyhoeddus yn yr awyr agored;
- Diogelu bywyd gwyllt, adeiladau a lleoedd o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol; tra'n
...Mwy -
Dynodwyd y rhan fwyaf o Barciau Gwledig yn y 1970au dan Ddeddf Cefn Gwlad 1968 gyda chefnogaeth y cyn Gomisiwn Cefn Gwlad. Yn fwy diweddar ni fu unrhyw gymorth ariannol penodol ar gyfer Parciau Gwledig yn uniongyrchol, ac mae llai wedi cael eu dynodi. Mae'r mwyafrif yn cael eu rheoli gan awdurdodau lleol, er y gall sefydliadau eraill ac unigolion hefyd eu rhedeg. Mae Parc Gwledig yn ardal a
...Mwy -
Mae’r set ddata hon yn dangos lleoliad Parth Diogelu Dŵr Dyfrdwy. Ardal yw Parth Diogelu Dŵr lle y caiff gweithgareddau arbennig (storio neu ddefnyddio sylweddau a reolir) eu gwahardd neu eu cyfyngu er mwyn lleihau’r perygl o lygru dŵr yfed. Yn ôl Rheoliadau Parth Diogelu Dŵr (Dalgylch Afon Dyfrdwy) (Darpariaethau Gweithdrefnol a Darpariaethau Eraill) 1999, rydych angen
...Mwy -
Yn 2015 newidiwyd dynodiad y Warchodfa Natur Forol (GNF) yn Barth Cadwraeth Morol (PCM). Mae'r set ddata gofodol hon yn crynhoi ffiniau digidol Parthau Cadwraeth Morol, cyn Warchodfeydd Natur Morol, yng Nghymru. Mae’r Parthau Cadwraeth Morol a’r Gwarchodfeydd Natur Morol yn fodd o warchod cynefinoedd morol a nodweddion eraill, sydd o bwysigrwydd arbennig i fywyd gwyllt ar hyd yr
...Mwy -
Mae'r set ddata gofodol hon yn cynnwys ffiniau Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (GNC) yng Nghymru. Y GNC yw’r enghreifftiau gorau o'n cynefinoedd bywyd gwyllt a’n nodweddion daearegol a gallant amrywio o ran maint o bum hectar i dros 2,000. Mae GNC yn cael eu dynodi gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, neu dan Ddeddf Bywyd
...Mwy -
Mae'r set ddata gofodol hon yn crynhoi ffiniau Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yng Nghymru. Mae SoDdGA yn cwmpasu ystod eang o gynefinoedd o ffeniau bychain, corsydd a dolydd hyd lannau afonydd i dwyni tywod, coetiroedd ac ardaloedd helaeth o ucheldir. Mae'r rhan fwyaf mewn perchnogaeth breifat, er bod rhai yn eiddo i ac yn cael eu rheoli gan ymddiriedolaethau bywyd
...Mwy -
Cafodd tirweddau Cymru eu ffurfio gan brosesau naturiol a'u llunio gan weithgarwch dynol. Mae'r gweithgarwch dynol hwn yn amrywio o gyfnodau cynhanesyddol hyd at yr oes fodern. Er mwyn cydnabod gwerth tirweddau hanesyddol a chodi ymwybyddiaeth o'u pwysigrwydd mae Cadw, mewn partneriaeth â Chyngor Cefn Gwlad Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru bellach) a'r Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a
...Mwy -
Mae'r set ddata ofodol hon yn cynnwys ffiniau dynodiadau a pharthau clustogi cysylltiedig sydd wedi'u heithrio o drwyddedau Cyffredinol 001,002 a 004 a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru i ganiatáu lladd rhai adar gwyllt. Bydd angen i unigolion sy'n dymuno lladd adar gwyllt o fewn y dynodiadau hyn neu eu clustogfeydd priodol wneud cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded
...Mwy -
WMS data, work in progress