Catalog
55 Canlyniadau
-
Gwybodaeth am lifogydd a rhybuddion amgylcheddol eraill gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
-
Mae adran gyhoeddiadau gwefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynnig ystadegau cenedlaethol a gwybodaeth am wahanol themau. Dan y thema Amaethyddiaeth a'r Amgylchedd ceir gwybodaeth ac ystadegau o bob cwr o'r DU am y sectorau amaethyddiaeth, yr amgylchedd naturiol, pysgota, bwyd a choedwigaeth.
-
Mae Oriel Mapiau Arsylwi Dyfroedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gasgliad o fapiau gwe sy'n ymwneud â'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yng Nghymru. Ewch i'r safle i gael gwybod mwy am y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.
I'w weld danGwefan -
Dan nawdd Prifysgol Caerdydd, hafan Arsyllfa Wledig Cymru; yn rhoi gwybodaeth a chyhoeddiadau ymchwil ar faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yng Nghymru wledig.
-
Safle dan nawdd defra. Mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol (AHVLA) yn asiantaeth weithredol sy'n gweithio ar ran Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru.
-
Gwefan dan nawdd JNCC, yn rhoi gwybodaeth am Gynlluniau Gweithredu'r DU ar Fioamrywiaeth dros yr 20 mlynedd ddiwethaf (1992-2012).
-
Gwefan dan nawdd Defra, gellir ei defnyddio i weld pa gamau ymarferol sy'n cael eu cymryd er lles cynefinoedd a rhywogaethau pwysig, ac i gynhyrchu crynodebau o'r data. Mae hefyd yn ddull effeithlon o gyfrannu gwybodaeth am eich camau gweithredu chi ar fioamrywiaeth.
-
BIS oedd y Ganolfan Cofnodion Leol gyntaf yng Nghymru a chafodd ei sefydlu yn 2000 i gynnwys siroedd Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn. Roedd yn un o 3 canolfan gofnodion beilot yn y DU, (roedd y ddwy arall yn Sir Gaer a Gogledd-ddwyrain yr Alban) a chafodd ei ariannu gan bartneriaeth ag Ymddiriedolaeth Esmee Fairburn trwy Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt y Deyrnas Unedig. Sefydlwyd y
...Mwy -
Datganiad gwefan: Mae Cadwch Gymru'n Daclus yn credu bod modd cael ‘Cymru lân a thaclus' drwy newid agweddau pobl fel nad ydynt yn cyfrannu at weithgareddau sy'n cael effaith negyddol ar eu hamgylchedd lleol. Mae nifer o weithgareddau'n effeithio ar ansawdd yr amgylchedd lleol ac, i ddechrau, mae Cadwch Gymru'n Daclus yn canolbwyntio ar faterion fel sbwriel, tipio anghyfreithlon a baw
...Mwy -
The Canal & River Trust is here so you have a place to escape. A place where you can step off the pavement, onto the towpath and breathe. We are a charity, and we are entrusted to care for 2,000 miles of waterways in England and Wales.
The Trust’s Open Data site provides access to some of our core data and maps. Please note some data is subject to INSPIRE end user licence.
-
Canolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De Ddwyrain Cymru (SEWBReC) yw'r ganolfan ar gyfer coladu, rheoli a lledaenu data bioamrywiaeth ar gyfer De Ddwyrain Cymru. Ein nod yw sicrhau bod gwybodaeth briodol am fioamrywiaeth leol ar gael i bawb sydd ei hangen, i helpu i sicrhau y gwneir penderfyniadau sy'n effeithio ar fioamrywiaeth leol gan ddefnyddio'r data gorau sydd ar gael.
-
Mae CGBGC yn gofalu am weithgarwch cofnodi biolegol mewn ardal sy’n rhyw 5650km2. Mae hyn yn cynnwys Is Siroedd Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin i gyd, ac eithrio’r sector Dwyreiniol bychan yn y sir sy’n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
-
Gwefan sy'n crynhoi'r prif gynhyrchion mapio cynefinoedd a gesglir ac a gynhyrchir gan y Cyd-bwyllgor Gwarchod Natur mewn cydweithrediad â chyrff gwarchod natur statudol y glannau (Natural England, Adran yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon, Treftadaeth Naturiol yr Alban, Cyfoeth Naturiol Cymru).
I'w weld danGwefan -
Asiantaeth weithredol Defra yw Cefas. Mae Cefas - the Centre for Environment, Fisheries and Aquaculture Science - yn gwneud cyfraniad pwysig i sicrhau amgylchedd morol a dŵr ffres iach a chynaliadwy, er mwyn i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol ffynnu. Mae'r safle yn cynnwys gwybodaeth,data, cyhoeddiadau newyddion a manylion ynghylch gwasanaethau Cefas.
-
Safle dan nawdd Prifysgol Caeredin, yn rhoi gwybodaeth a data mewn perthynas â phrosiect COBWEB.
-
Mae Cofnod yn un o bedair Canolfan Gofnodion Leol (CGL) yng Nghymru ac mae'n ffurfio rhan o'r rhwydwaith cenedlaethol cyntaf o CGLau yn y DG. Dewiswyd ein henw er mwyn adlewyrchu pwysigrwydd arsylwi a chofnodi bywyd gwyllt, a chreu 'cofnod' yw'r man cychwyn ar gyfer y holl ddata sydd gennym. Ein tasg yw dwyn at ei gilydd yr holl gofnodion unigol hyn mewn un bas data canolog fel bod gennym well ...Mwy
-
Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pryfed Peillio. Mae’r Tasglu Pryfed Peillio yn dod â rhanddeiliaid allweddol ynghyd o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i wireddu amcanion y Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio. Mae rhestr Adnoddau Pryfed Peillio ar y wefan.
-
Gwefan dan nawdd Llywodraeth Cymru; yn rhoi gwybodaeth yn ymwneud â chynllun amaeth amgylcheddol Glastir.
-
Map Llifogydd rhyngweithiol ar gyfer Lloegr, yn cael ei gynnal gan Asiantaeth yr Amgylchedd Lloegr.
-
Mae system wybodaeth ar natur Ewrop sef EUNIS, yn dod â data Ewropeaidd o sawl cronfa ddata a sefydliadau ynghyd â’i ffurfio yn dair modiwl cydgysylltiedig ynghylch mathau o safleoedd, rhywogaethau a chynefinoedd.
-
Cynhelir y wefan gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae’r Porth Pridd Ewropeaidd hwn yn rhan bwysig o Ganolfan Data Pridd Prydain sy’n un o ddeg canolfan data amgylcheddol yn Ewrop. Mae hefyd yn bwynt canolog ar gyfer data pridd ar lefel Ewropeaidd. Mae’r Porthol Pridd Ewropeaidd hwn yn cyfrannu at ddata seilwaith thematig ar gyfer priddoedd Ewrop. Mae’n cyflwyno data a gwybodaeth
...Mwy -
Fideos a delweddau llonydd a gasglwyd fel rhan o'r prosiect Rheoli Adnoddau Naturiol Morol mewn Modd Cynaliadwy (SMMNR).
-
Safle dan nawdd y Comisiwn Coedwigaeth, yn darparu gwybodaeth mewn perthynas ag ymchwil coedwigaeth ar draws y DU.
-
Gwefan sy'n cael ei chynnal gan Ricardo-AEA ar ran Llywodraeth Cymru a Fforwm Ansawdd Aer Cymru. Nod y wefan hon yw darparu gwybodaeth gynhwysfawr am ansawdd aer yng Nghymru.
-
Hafan British Geological Survey (BGS)
-
Hafan Canolfannau Cofnodion Lleol (LRC) Cymru
-
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw’r sefydliad sy’n gyfrifol am y gwaith a wnaed gan dri sefydliad blaenorol, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru. Mae hefyd yn gyfrifol am rai o’r swyddogaethau a gyflawnwyd cyn hyn gan Lywodraeth Cymru.
Pwrpas CNC yw sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu rheoli’n gynaliadwy.
Mae CNC yn
...Mwy -
Hafan European Commission
-
Hafan Llywodraeth Cymru
-
Mae’r Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol yn bartneriaeth gydweithredol sydd wedi’i chreu i gyfnewid gwybodaeth am fioamrywiaeth ac mae’n cynnwys llawer o sefydliadau gwarchod bywyd gwyllt, llywodraethau, asiantaethau cefn gwlad ac amgylcheddol, canolfannau cofnodion amgylcheddol lleol a llawer o grwpiau gwirfoddol eraill, oll o fewn y Deyrnas Unedig.
-
Hafan y Swyddfa Ystadegau Gwladol; darparu gwybodaeth a data am yr economi, y boblogaeth a chymdeithas ar lefel genedlaethol a lleol. Cyhoeddir crynodebau a datganiadau data manwl yn rhad ac am ddim.
-
Hafan Waste and Resources Action Programme (WRAP). Datganiad gwefan"Rydyn ni'n gweithio gyda busnesau ac unigolion i'w helpu i gael budd o leihau gwastraff, datblygu cynnyrch cynaladwy a defnyddio adnoddau mewn ffordd effeithlon. Sefydlwyd WRAP yn gwmni nid er elw yn 2000 ac fe'i cefnogir gan gyllid llywodraeth yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban."
-
Hafan Waste and Resources Action Programme (WRAP) Cymru. Datganiad gwefan"Rydyn ni'n gweithio gyda busnesau ac unigolion i'w helpu i gael budd o leihau gwastraff, datblygu cynnyrch cynaladwy a defnyddio adnoddau mewn ffordd effeithlon. Sefydlwyd WRAP yn gwmni nid er elw yn 2000 ac fe'i cefnogir gan gyllid llywodraeth yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban."
-
Hafan y Sefydliad Coedwigwyr Siartredig.
-
Rydym yn cyhoeddi'r wybodaeth am lefelau afonydd fel bod pobl sy'n byw mewn ardaloedd lle y mae perygl llifogydd yn cael eu hysbysu'n well ac yn gallu penderfynu pa gamau i'w cymryd wrth i lefelau'r dŵr newid. Bydd genweirwyr a chychwyr yn gallu defnyddio'r wybodaeth hon hefyd i wirio lefelau'r dŵr cyn cychwyn ar eu taith.
Ni ddylid defnyddio'r gwasanaeth hwn yn lle'r gwasanaeth rhybuddion
...MwyI'w weld danGwefan -
Hafan LWEC yn rhoi gwybodaeth am y bartneriaeth dros 10 mlynedd.
-
Oceannet yw'r enw parth sy'n cael ei ddefnyddio gan y Rhwydwaith Data a Gwybodaeth Amgylchedd Morol (MEDIN). Mae'r hafan yn rhoi gwybodaeth am MEDIN fel partneriaeth o fudiadau sy'n cydweithio i wella mynediad at ddata morol a'i warchod. Gall defnyddwyr y wefan ddod o hyd i ddolenni ar sut i ddarganfod data morol, sut i gyflwyno a chreu metadata morol, sut i gael data ar rwydwaith MEDIN, cael
...Mwy -
Hafan Sefydliad Rheoli Morol Ei Mawrhydi.
-
Mae myForest yn wasanaeth rhad ac am ddim i berchnogion coetiroedd, busnesau coedwigaeth a defnyddwyr coedwigoedd. Defnyddiwch yr arfau ar-lein i gynllunio ar gyfer rheoli coedwigoedd mewn ffordd gynaliadwy a marchnata cynnyrch coedwigoedd brodorol.
-
Dan nawdd Defra, hafan NAEI; yn rhoi gwybodaeth ar amrywiol rannau o restr allyriadau atmosfferig genedlaethol y DU.
-
RANDD - Safle dan nawdd defra, yn rhoi gwybodaeth a data mewn perthynas â phrosiectau gwyddorau naturiol a chymdeithasol wedi'u hariannu gan defra.
-
"Ar y wefan hon cewch wybodaeth am waith Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru gan gynnwys: camau gweithredu ac amcanion cenedlaethol a lleol; newyddion a digwyddiadau yn ymwneud â bioamrywiaeth; a sut gallwch chi helpu bioamrywiaeth."
-
Cafodd y Porth Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS) ei lansio fel rhan o’r Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol (NBN) Atlas Cymru ym mis Tachwedd 2018.
Mae rhywogaeth oresgynnol estron yn cyfeirio at unrhyw anifail neu blanhigyn estron sydd â’r gallu i ledaenu, gan achosi difrod i’r amgylchedd, yr economi, ein hiechyd a’r ffordd yr ydym yn byw.. Mae’r
...Mwy -
Hafan Cynghorau Ymchwil y DU, partneriaeth strategol saith Cyngor Ymchwil y DU.
-
Adran dan nawdd Llywodraeth Cymru; rhoi gwybodaeth yn ymwneud â Rhaglen Datblygu Gwledig (2014 - 2020).
-
Mae Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (RhaMaGG) wedi cael ei chomisiynu gan Lywodraeth Cymru i asesu perfformiad Glastir. Cafodd RhaMaGG ei lansio yr un pryd â chynllun Glastir. Mae hyn yn darparu adborth polisi cyflym fel ei bod yn bosibl addasu'r cynllun er mwyn gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.Cliciwch dolenni isod i gael gwybod mwy am gwaith mae RhaMaGG yn ei wneud o fewn y
...Mwy -
Drwy Hwb Data Gwyddonol Sentinels, mae modd cael mynediad cyflawn, rhad ac am ddim ac agored i gynhyrchion i ddefnyddwyr Sentinel-1 a Sentinel-2 sy’n deillio o’r Adolygiad Comisiynu In-Orbit (IOCR).
-
Rôl FERA yw deall problemau a chreu atebion cynaliadwy trwy feddwl mewn dull arloesol a chasglu a dadansoddi tystiolaeth wyddonol gadarn. Mae hyn yn rhoi i ni’r platfform cywir i allu helpu ein cwsmeriaid, nid yn unig yn y penderfyniadau strategol â wnânt ond gyda’r penderfyniadau y maen nhw’n gorfod eu gwneud o ddydd i ddydd hefyd.
-
Sefydlwyd ALERC yn 2009 ac mae’n bartneriaeth rhwng y Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol (LRCau) ym Mhrydain Fawr. Nod y Gymdeithas yw rhoi cyfle i gymuned y Ganolfan Gofnodion leisio eu barn a’u pryderon a chreu rhwydwaith o wybodaeth a chyngor i ddiwallu anghenion yr aelodau.
-
Dan nawdd y Swyddfa Dywydd, hafan UKCP; yn rhoi gwybodaeth ynghylch rhagolygon hinsawdd diweddaraf y DU a dolenni atynt.